Diweddariad i Athrawon Newydd Gymhwyso

25 Mawrth 2020

Diweddariad i Athrawon Newydd Gymhwyso

Yn ein cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru mae UCAC wedi bod yn gwthio am eglurder am y modd y bydd Athrawon Newydd Gymhwyso yn cwblhau eu Cyfnod Ymsefydlu statudol tra bod ysgolion ar gau.
 
Rydym hefyd wedi pwyso ar Gyngor y Gweithlu Addysg i ystyried y mater ar fyrder.
 
Dyma’r datganiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru:
“Rydym yn cydnabod y bydd athrawon newydd gymhwyso yn ddealladwy o bryderus am effaith bosib Covid-19 ar eu cyfnod sefydlu statudol. Rydym yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ddatblygu canllawiau diwygiedig i’w dilyn tra bod ysgolion ar gau.”
 
 
Os ydych am drafod eich sefyllfa gyda Swyddog Maes mae croeso i chi gysylltu ar e-bost neu dros y ffôn.
 
Manylion cysylltu:
 
Ffôn: 01970 639950
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Byddwn yn eich diweddaru pan fydd unrhyw ddatblygiad.