Pam ymaelodi?

Mae ymaelodi ag undeb yn bwysig er mwyn sicrhau bod help wrth law pe bai trafferthion yn codi. Gall arbed miloedd o bunnoedd i chi mewn costau cyfreithiol. Yn ogystal, trwy uno gydag eraill fel aelodau o undeb, gall athrawon a darlithwyr sicrhau’r tâl ac amodau gorau yn eu gwaith. 

Sefydlwyd UCAC yn 1940 yn seiliedig ar set o egwyddorion cadarn sydd yr un mor berthnasol heddiw. Yn ogystal â chynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i aelodau, a buddiannau arbennig, mae UCAC yn ymgyrchu'n gyson ar faterion lleol a chenedlaethol. Mewn undeb mae nerth!