Diffyg uchelgais wrth gynllunio Addysg Gymraeg

2 Ebrill 2014

Diffyg uchelgais wrth gynllunio Addysg Gymraeg

Bydd Cynlluniau drafft Addysg Gymraeg Awdurdodau Lleol Cymru’n syrthio’n brin iawn o darged y Llywodraeth ar gyfer twf addysg Gymraeg.  Dyna honiad RhAG ac UCAC ar sail arolwg o’r Cynlluniau drafft.
Mae pob un o Awdurdodau Lleol Cymru wedi cyflwyno’u cynlluniau drafft, ac mae RhAG ac UCAC wedi mynegi pryderon bod nifer sylweddol ohonynt yn annigonol ac yn ddi-uchelgais.
 
Daw’r mudiadau i’r casgliad hwnnw wedi iddynt gyfrannu sylwadau ar y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sy’n weithredol ar sail statudol am y tro cyntaf o 1 Ebrill ymlaen, ac sy’n amlinellu sut y byddant yn cynllunio darpariaeth Addysg Gymraeg rhwng 2014 – 17.
 
Bernir fod diffyg targedau pendant a mesuradwy ynghyd ag aneglurder sylweddol o ran y camau gweithredu i gyflawni’r targedau sydd wedi’i pennu yn Strategaeth Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru.
 
Ymysg y prif gasgliadau: 
  • Er bod y Cynlluniau ar y cyfan yn nodi bod Awdurdodau Lleol am weld llwyddiant addysg Gymraeg, yn gyffredinol mae diffyg gweledigaeth a chamau gweithredu rhagweithiol, pendant er mwyn cyrraedd targedau cenedlaethol.
  • Does dim digon o dystiolaeth i ddangos bod Awdurdodau Lleol yn bwriadu ysgogi a hyrwyddo twf addysg Gymraeg.
  • Does dim digon o sôn am fesur y galw am addysg Gymraeg ymhlith rhieni, nac ymateb i arolygon sydd eisoes wedi digwydd.
  • Diffyg targedau penodol, heriol a mesuradwy a fydd yn arwain at gynnydd gwirioneddol.
  • Diffyg sôn am agor ysgolion newydd.
  • Mewn siroedd lle mae’r dilyniant o'r cynradd i'r uwchradd yn wan, mae diffyg targedau i gau’r bwlch yn y llithriad ieithyddol. Diffyg pwyslais digonol, neu yn achos nifer o’r siroedd, dim pwyslais o gwbl, ar hyrwyddo addysg Gymraeg yn rhagweithiol er mwyn symbylu twf.
Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG “Mae rhai siroedd wedi mynd ati i nodi sut bydd addysg Gymraeg yn ehangu, ond yn gyffredinol pryderwn nad yw’r Cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn adlewyrchu ysbryd na llythyren Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Rheoliadau perthnasol.  Dydyn nhw ddim yn amlinellu sut y bydd pob awdurdod lleol yn cyflawni’r canlyniadau a’r targedau sy’n ddisgwyliedig ohonynt.
 
“Cam cyntaf yn unig yn y broses o gyflymu’r ymateb i’r galw cynyddol am Addysg Gymraeg oedd lansio’r Strategaeth nôl yn Ebrill 2010: gweithredu’r rhaglen waith yn effeithiol yw’r unig ffordd o gyflawni’r targedau â bennir ynddo.
 
“Dylai pob cynllun strategol fod yn gerbyd effeithiol i hwyluso a datrys y rhwystrau presennol sy’n llesteirio twf addysg Gymraeg a galluogi Awdurdodau Lleol i gynyddu lleoedd. Mae angen felly i’r siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallu’r galw ond yn hytrach i hybu twf. Pwysleisiwn bod rhai siroedd wedi mynd ati i nodi eu bwriadau’n glir, yr hyn sydd ei angen yw bod pob sir yn efelychu’r patrwm hwnnw.
 
“Mae RhAG yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn i hyn ac yn pwyso ar y Gweinidog Addysg i ddefnyddio’r grymoedd newydd sydd yn ei feddiant i wrthod cynlluniau gwan, cyffredinol ac amwys. Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn troi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad yn ystod cylch cyntaf y Cynlluniau newydd.”
 
Ychwanegodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Mae'r Cynlluniau'n eithriadol o amrywiol, gydag ambell un yn cynnwys dadansoddiad onest a thargedau heriol. Fodd bynnag, rydym yn siomedig bod cynifer ohonynt yn dangos diffyg cyfeiriad, diffyg ysbrydoliaeth a diffyg uchelgais. Pwyswn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Awdurdodau'n cymryd eu cyfrifoldebau statudol o ddifrif, ac i fynnu bod y Cynlluniau gwanaf yn cael eu diwygio'n sylweddol ar fyrder."
 
Nodiadau
 
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
  • Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
  • Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar 01970 639950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-17
 
Trosolwg Cenedlaethol: Casgliadau Cyffredinol RhAG
 
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru Ebrill 2010 
 
Adroddiad Blynyddol Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg 2012-13 
 
Yn rhagymadrodd y Gweinidog, ceir cydnabyddiaeth na fydd modd cyrraedd targed 2015, ond heb gynlluniau gweithredu pendant a bwriadus gan lywodraeth leol fydd dim gobaith chwaith o gyflawni targedau 2020, sef 30% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg.