Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
24 Tachwedd 2023
YSGOLION YN PARATOI I HELPU PLANT MWYAF BREGUS Y BYD AR DDIWRNOD SIWMPER NADOLIG ACHUB Y PLANT
Mae digwyddiad codi arian Diwrnod Siwmper Nadolig blynyddol Achub y Plant yn ôl eto eleni, ac mae’r elusen yn galw ar blant ysgol ledled Cymru i gymryd rhan ar ddydd Iau 7fed Rhagfyr.
Ers 2012, mae’r elusen wedi codi mwy na £35 miliwn ar gyfer plant yn fyd-eang, drwy alw ar ysgolion, teuluoedd a busnesau I ddod â gwên i’r byd mewn siwmper glyd.
Gyda’r oll sy’n digwydd ar draws y byd o ganlyniad i wrthdaro, newid hinsawdd a thlodi a’r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn peri cymaint o ansicrwydd i deuluoedd yma yng Nghymru, mae’r elusen yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o ysgolion a disgyblion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch eleni.
Mae’r elusen hefyd yn gobeithio gwneud y Diwrnod Siwmper Nadolig hwn y mwyaf cynhwysol a chynaliadwy eto ac mae’n annog athrawon a rhieni i ailgylchu ac ail-greu yn hytrach na phrynu siwmper o’r newydd. Beth am annog y plant i ddod â hen siwmperi i mewn i’r ysgol y gallen nhw eu haddurno eu hunain yn y dosbarth? Neu beth am fynd ati i feddwl am weithgarwch codi arian fel ‘Addurno’r Athro’ neu sêl gacennau a mins peis.
Adnoddau Cymraeg ar gael i ysgolion
Cofrestrwch i gymryd rhan ar www.christmasjumperday.org ac unwaith i chi wneud hynny chwiliwch am y ddolen sy’n cynnwys yr adnoddau Cymraeg sy’n cynnwys pecyn yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol i sicrhau y bydd eich Diwrnod Siwmper Nadolig yn llwyddiant. Mae yma hefyd bwynt pwer ar gyfer gwasanaeth ysgol a syniadau a thaflen gwers a nodiadau ar gyfer athrawon.
Croeso i chi hefyd gysylltu gydag Eurgain Haf ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am gopïau. Dilynwch ni hefyd ar Twitter @savechildrencym a Facebook @savethechildrenwales a chofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar drwy ddefnyddio #diwrnodsiwmpernadolig.
21 Tachwedd 2023
Mae UCAC yn hynod o siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol heb ymgysylltu’n llawn o flaen llaw â’r undebau athrawon. Teimla’r Undeb na roddwyd ystyriaeth ofalus i bwyntiau ymarferol nac i faterion sy’n ymwneud ag addysgeg, wrth i’r Llywodraeth lunio ei chynlluniau ar gyfer blwyddyn ysgol ddiwygiedig. Mae newidiadau sylweddol i galendr ysgol yn gofyn am waith cynllunio manwl, gan roi sylw i oblygiadau’r newidiadau hynny ar bob carfan.
Wrth nodi y bwriad i ymestyn tymor yr haf, golyga hyn y bydd disgyblion yn yr ysgol yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Dyma binacl y flwyddyn i’r diwydiant amaethyddol, diwydiant sydd mor bwysig i Gymru. Bydd dileu wythnos o wyliau haf yn golygu y bydd gwyliau arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion uwchradd yn cael eu tocio fwyfwy, gan fod derbyn canlyniadau arholiadau allanol ym mis Awst eisoes yn golygu eu bod yn colli wythnosau o’u gwyliau haf.
Wrth docio wythnos o dymor yr hydref, golyga hyn fod gan ysgolion wythnos yn llai i baratoi disgyblion ar gyfer arholiadau allanol a hynny yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, yr union adeg y cyflwynir y cyrsiau TGAU newydd am y tro cyntaf. Mae byd addysg wedi wynebu heriau a newidiadau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan orfod ymdopi gyda newidiadau chwyldroadol megis y cwricwlwm newydd, deddfwriaeth ADY newydd, yn ogystal â’r holl heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.
Cred yr Undeb mai’r ffordd orau o gefnogi ‘llesiant dysgwyr a staff’ yw drwy sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i ysgolion ac nid drwy gyflwyno mwy eto o newidiadau.
Rydym eisoes yn wynebu problemau recriwtio a chadw staff ac nid ydym am weld hyn yn gwaethygu fwyfwy, gyda’r holl newidiadau.
COFIWCH
Mae modd mynegi eich barn am y newidiadau posibl drwy anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 12 Chwefror 2024.
Ewch i https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol er mwyn darllen y ddogfen ymgynghori a dysgu sut i ymateb.
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan AIM Development