Dim ail-agor ysgolion

4 Mai 2020

Dim ail-agor ysgolion

Mae nifer wedi cysylltu dros y Sul yn dilyn sylwadau yn y cyfryngau am drefniadau dychwelyd i’n hysgolion.

Carwn bwysleisio nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ddyddiad(au) penodol ar gyfer dychwelyd yn ein trafodaethau â hwy ac mae Llywodraeth Cymru ei hunan wedi cadarnhau nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar sut na phryd yn union y bydd ysgolion yn ail agor.

Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth mae’n bwysig ail-bwysleisio’r ‘egwyddorion allweddol’ cyn unrhyw ddychwelyd sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg:

·         Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff

·         Cyfraniad parhaus i'r ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad COVID-19

·         Hyder rhieni, staff a myfyrwyr - yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth - fel y gallant gynllunio ymlaen llaw

·         Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig

·         Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau            fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach

Mae manylion y datganiad yma:
https://llyw.cymru/y-gweinidog-addysg-yn-nodi-pum-egwyddor-allweddol-ar-gyfer-ailgychwyn-ysgolion

Rydym yn trafod, bob yn eilddydd, gyda Llywodraeth Cymru, a byddwn yn codi ein pryderon am y negeseuon cymysg gyda hwy yn ein cyfarfod bore yfory. 

Cofiwch gysylltu os ydych am drafod ymhellach.

01970 639950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.