Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19

26 Mawrth 2020

Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19

Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg a thu hwnt mae UCAC yma i chi fel gweithwyr yn y sector addysg uwch.

Cymwysterau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd cyfres arholiadau’r haf (TGAU a Safon Uwch) yn digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn ynghylch cymwysterau eraill.

Fodd bynnag, caiff graddau eu dyfarnu ar sail amrywiaeth o dystiolaeth sydd eto i’w benderfynu’n derfynol. Yn naturiol, bydd hyn yn effeithio ar drefniadau mynediad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru’n trafod y sefyllfa gyda UCAS a HEFCW, ac yn gofyn i sefydliadau Addysg Uwch i beidio newid eu cynigion i fyfyrwyr dros y pythefnos nesaf i sicrhau sefydlogrwydd.

Ceir datganiad llawn y Gweinidog Addysg yma:

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-datganiad-ar-gyfres-arholiadaur-haf

A dyma’r datganiad diweddaraf gan Gymwysterau Cymru:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/coronafeirws---covid-19/

Gweithio o adre/Dysgu o bell

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion wedi symud yn gyflym i ddarparu dysgu o bell ble bynnag posib, ac i sicrhau bod cynifer â phosib o staff yn gweithio o adref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar eu gwefan a gellir gweld y manylion hynny yma:

https://llyw.cymru/addysg-bellach-ac-addysg-uwch-coronafeirws

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, neu am unrhyw agwedd arall o’ch cyflogaeth a’r trefniadau newydd mae croeso i chi gysylltu ar:

01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae lles ac iechyd ein haelodau yn flaenoriaeth i ni yn ystod y cyfnod hwn.