UCAC yn ymatal rhag streicio
12 Mawrth 2014
UCAC yn ymatal rhag streicio
Mewn cyfarfod brys o Gyngor Cenedlaethol UCAC yn Aberystwyth heddiw, penderfynwyd peidio galw ar aelodau i streicio ar 26 Mawrth.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Ers inni gyhoeddi’r bwriad i streicio, mae Llywodraeth San Steffan wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol.
“Yn sgil y datblygiadau positif hyn, mae UCAC wedi penderfynu parhau I bwyso am welliannau, a cheisio datrys yr anghydfod trwy drafodaethau ac
ymgyrchu.
“Nid yw’r ymgyrch drosodd, o bell ffordd, ond mae’r undeb wedi penderfynu mai trwy drafodaethau, yn hytrach na thrwy weithredu diwydiannol, y mae’r gobaith orau o lwyddo ar hyn o bryd.”
Ers i UCAC gyhoeddi ei fwriad i streicio, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Michael Gove wedi cytuno i gyfres o gyfarfodydd wythnosol dwys gyda’r holl undebau addysg i drafod ystod eang o bynciau sy’n peri pryder, fel llwyth gwaith, y system gyflogau a phensiynau.
Yn ogystal â’r cyfarfodydd hyn, bydd trafodaethau penodol gydag UCAC, yr NUT a’r NASUWT sef yr undebau sydd mewn anghydfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol.
Bydd y cyfarfodydd yn parhau’n wythnosol tan y Pasg a thu hwnt.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..