Ymateb yr undebau ar y cyd i argymhellion y Llywodraeth yn dilyn adroddiad yr STRB

28 Gorffennaf 2017

Ymateb yr undebau ar y cyd i argymhellion y Llywodraeth yn dilyn adroddiad yr STRB

Mae'r undebau addysg (UCAC, NUT, NAHT, ASCL, ATL a VOICE) wedi anfon llythyr ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol tros Addysg yn galw ar Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yn nodi'n statudol y dylai pob athro dderbyn codiad cyflog, yn unol ag argymhellion yr STRB ar gyfer yr ystod cyflog perthnasol. 
 
Bydd yr undebau ar y cyd hefyd yn argymell i ysgolion eu bod yn rhoi codiad cyflog i bob athro yn seiliedig ar argymhellion yr STRB ar gyfer yr ystod cyflog perthnasol, a bod eu polisiau cyflog yn nodi hyn yn glir.  
 
I weld copi o'r llythyr cyd-undebol yn llawn cliciwch yma.
 
Mae UCAC hefyd wedi anfon llythyr yn uniongyrchol at yr Ysgrifennydd Gwladol yn atgyfernthu'r safbwynt cydundebol uchod a hefyd yn nodi'r angen i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw a dilyniant gyrfaol. Mae cydnabyddiaeth tâl yn ffactor allweddol sy'n cael effaith sylweddol ar y materion hyn. Mae UCAC wedi nodi yn y llythyr bod angen mynd i'r afael â llwyth gwaith a'r gwahanol lefelau o atebolrwydd ond bod angen taclo cydnabyddiaeth tâl fel mater o flaenoriaeth.
 
I weld copi o llythyr UCAC yn llawn cliciwch yma.
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Brif Swyddfa ar 01970 639 950