Diweddariad i Arweinwyr Ysgol: COVID-19

20 Mawrth 2020 

Diweddariad i Arweinwyr Ysgol: COVID-19

Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg cofiwch fod UCAC yma i chi. Gwyddom pa mor drwm yw’r baich ar arweinwyr ar gyfnod fel hyn.

Mae nifer fawr iawn o gwestiynau eto i’w hateb. Rydym mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru i godi cwestiynau a phryderon, ac yn cydweithio i geisio dod o hyd i ddatrysiadau sy’n dderbyniol dan yr amgylchiadau.

Dyma ambell i ddiweddariad a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Dau ddatganiad gan Y Gweinidog Addysg/Llywodraeth Cymru:

  • 20 Mawrth 2020: Meini prawf ar gyfer defnyddio’r ddarpariaeth barhaus ar gyfer plant sy’n agored i niwed, neu    y mae eu rhieni’n hanfodol ar gyfer ymateb i Covid-19 (gan gynnwys cadarnhad o bwy sy’n weithwyr allweddol)

            https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-meini-prawf-ar-gyfer-defnyddior-ddarpariaeth-barhaus-ar-gyfer-plant-syn

  • 20 Mawrth 2020: Free school meals: coronavirus guidance for Schools (Saesneg yn unig ar hyn o bryd – ond gwerth trio’r ochr Gymraeg nes ymlaen)

            https://gov.wales/free-school-meals-coronavirus-guidance-schools

Datganiadau diweddaraf Cymwysterau Cymru a CBAC

Materion eraill

  • Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y diffiniad o ‘blant bregus’ fydd â mynediad at ofal; y gobaith yw y cyhoeddir hwn dydd Llun 
  • Mewn llawer o Awdurdodau Lleol, mae’n debygol y bydd disgwyl i ysgolion fod ar agor yn ystod y gwyliau Pasg - ond nid oes modd cyfarwyddo athrawon i ddod mewn yn ystod y gwyliau Pasg (hynny yw: 4 -19 Ebrill); mae staff eraill y gellid galw arnynt i weithredu yn ystod y cyfnod hwn (ac ni ddylai eu cyflogau ddod o gyllidebau ysgolion); mewn egwyddor mae hyn yn wir am Benaethiaid hefyd; mae UCAC yn pwyso am gadarnhad o hynny – ac hefyd yn pwyso am sicrhau y caiff swyddogaeth ‘Pennaeth Safle’ ei rannu rhwng Pennaeth yr ysgol ac eraill a benodir gan yr Awdurdod Lleol
  • Mae hawl gan yr athrawon canlynol i weithio o adref:

o   athrawon sy’n feichiog neu sydd â chyflyrau iechyd perthnasol

o   athrawon sy’n hunan-ynysu am fod ganddyn nhw neu aelod o’r teulu symptomau perthnasol

o   athrawon sydd â rhywun bregus yn y cartref

  • Ni ddylid disgwyl i athrawon sydd â chyfrifoldebau gofal plant (a heb fynediad at ddarpariaeth) weithio
  • Nid oes mwyafswm o ran niferoedd na chanrannau plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion – ond mae’r pwyslais ar sicrhau y cedwir y niferoedd mor fach â phosib

Mae UCAC yn pwyso am atebion i’r cwestiynau canlynol, ymhlith eraill:

  • mae’n gynyddol amlwg bod angen cadw’r niferoedd sy’n derbyn gofal plant mewn ysgolion i’r lleiafswm; mae angen canllaw ar sut i ddelio â phlant sy’n cyrraedd ysgolion nad ydynt yn dod i’r categorïau ar gyfer derbyn gofal – gan ystyried materion diogelu plant, a sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel 
  • sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn rhoi neges glir na ddylai ysgolion fod yn ceisio gweithredu cynlluniau ail-strwythuro/diswyddo ar hyn o bryd; ac na ddylai fod sgil-effeithiau ar gyllidebau ysgol o ganlyniad i ohirio’r prosesau
  • sut ydyn ni’n blaenoriaethu o ran bod yn bresennol mewn ysgolion gyda’u pwrpas newydd, a cheisio darparu addysg yn y cartref; pwy ddylai fod yn gwneud beth?
  • a ddylai athrawon fynd i’w hysgolion arferol – neu’r ysgol agosaf er mwyn lleihau teithio?

Cofiwch ddilyn y cyngor cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://llyw.cymru/coronafeirws a https://icc.gig.cymru/

Wrth i’r sefyllfa ddatblygu’n ddyddiol byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda chi. 

Mae croeso i chi gysylltu os oes pryder neu gwestiwn – Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.