Diweddariad: Covid 19

24 Mawrth 2020

Diweddariad: Covid 19

Mae UCAC wedi bod yn cyfarfod, dros gynhadledd-fideo, Llywodraeth Cymru i drafod rôl hanfodol ein hysgolion wrth ddelio gyda’r sefyllfa. Byddwch yn gweld o’r datganiad bod datblygiadau yn cael eu hadolygu gyda’r undebau a hynny’n ddyddiol.

Daeth cais neithiwr gan Lywodraeth Cymru i ni rannu’r datganiad a wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg gyda chi heddiw:

Hoffwn ddiolch i rhieni am wrando ar y cyngor a chadw'r rhan fwyaf o blant gartref. Byddwn yn ddiolchgar bore fory os fyddech ond yn defnyddio ysgolion neu ofal plant fel dewis olaf. 

Nid yw'r cyngor wedi newid o ganlyniad i'r penderfyniad heno i gyfyngu ymhellach ar symud, penderfyniad a gymrwyd gan ein Prif Weinidog, ynghyd ag arweinwyr eraill y DU, gyda’r nod o arafu lledaeniad coronafeirws.

Dylai plant fod gartref lle bynnag y bo'n bosibl. Bydd angen o hyd i weithwyr critigol gael trefniadau gofal diogel ar gyfer eu plant. Mae ein hysgolion a'n lleoliadau gofal plant yn darparu gwasanaeth hanfodol i gefnogi gweithwyr critigol a'r plant sydd fwyaf agored i niwed.

Dylai'r rhai sy'n ymwneud â'r trefniadau presennol barhau i ofalu am blant. Diolch yn fawr i'n gweithwyr addysgu a gofal plant anhygoel am eu hymrwymiad yn y cyfnod hwn o angen cenedlaethol.  

Bydd y sefyllfa hon yn parhau am y tymor byr ond byddwn yn adolygu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a'n hundebau athrawon.

Mae’r sefyllfa yn newid o ddydd i ddydd ac yn wir o awr i awr a chofiwch bod gwybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am y Coronafeirws (COVID-19) ar gael yma: https://llyw.cymru/coronafeirws 

Mae gwybodaeth am sut y dylai ysgolion weithredu yn ystod y pandemig coronafeirws ar gael (Yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd) yma:
https://llyw.cymru/sut-y-bydd-ysgolion-yn-gweithio-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws?_ga=2.107134530.1515929156.1584985300-1827218598.1573578679 

Byddwn yn parhau i ofyn am sicrwydd bod cysondeb yn digwydd ar draws Cymru o ran lles, iechyd a’r disgwyliadau ar staff ysgol.

Carwn bwysleisio ein bod yn parhau i sicrhau gwasanaeth llawn i’n haelodau ac mae modd cysylltu gyda ni yma:

Ffôn: 01970 639950
E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.