UCAC yn croesawu cyhoeddi Adroddiad yr Athro Donaldson
25 Chwefror 2015
UCAC yn croesawu cyhoeddi Adroddiad yr Athro Donaldson
Mae UCAC heddiw wedi croesawu cyhoeddi Adroddiad yr Athro Donaldson: Dyfodol Llwyddiannus (Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru).
"Mae'r Athro Donaldson yn amlwg wedi gwrando ar athrawon ac ar ddisgyblion. Mae'r 68 argymhelliad yn cynnwys manylion am strwythur ar gyfer cwricwlwm mwy hyblyg fydd yn caniatáu mwy o ryddid i athrawon ddefnyddio'u barn proffesiynol ac i fod yn gyfrifol am benderfyniadau" meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
Mae llawer i'w groesawu ac ystyried.
Mae'r argymhellion yn radical, ond dyma wir gyfle i greu Cwricwlwm i Gymru fydd yn dod â boddhad i ddisgyblion ac athrawon a bydd yn sicrhau ein bod yn paratoi plant a phobl ifanc i fod yn ddysgwyr da am oes.
Croesawn y ffaith y bydd athrawon yn cael cyfle i roi mewnbwn i ddatblygu'r 6 Prif Faes Dysgu a Phrofiad. Mae dau o'r tri elfen trawsgwricwlaidd, Llythrennedd a Rhifedd, yn rhan o'r Cwricwlwm yn barod. Mae Cymhwysedd Ddigidol yn ychwanegol a thybiwn bydd cyrraedd y nod yn her ond deallwn bwysigrwydd y maes i ddyfodol economaidd Cymru.
Mae UCAC yn croesawu'r pwyslais ar asesu ar gyfer dysgu ac asesu beth sy'n bwysig mewn ffordd addas a chymesur. Cytunwn â'r farn bod y profion allanol yn digwydd yn rhy aml ar hyn o bryd.
Mae UCAC yn croesawu'r cydnabyddiaeth yn yr Adroddiad o bwysigrwydd y Gymraeg a'i dysgu fel ffordd o gyfathrebu a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae gennym rai pryderon y gallai'r pwyslais ar Gymraeg llafar a gwrando dynnu oddi ar y Gymraeg ysgrifenedig. Rhaid cofio bydd angen defnyddio'r iaith ysgrifenedig wrth astudio neu yn y gweithle. Mae angen ystyried yn ofalus y dulliau gorau o roi'r cyfleoedd gorau i bawb.
Rydym yn ymwybodol iawn o heriau llwyth gwaith ein haelodau. Mae pob newid yn dod â gwaith ychwanegol ond croesawn y bwriad i weithredu'r newidiadau yn raddol dros gyfnod hir.
Edrychwn ymlaen at barhau i fod yn rhan o'r drafodaeth a sicrhau bod yr amserlen gweithredu yn dderbyniol i'n haelodau.
Am fanylion pellach cysylltwch ag UCAC ar 01970 639 950