Adnoddau Cymraeg

28 Tachwedd 2017

Adnoddau Cymraeg

Yn dilyn cwynion niferus gan aelodau, mae UCAC wedi bod yn gweithio’n galed dros y pum mis diwethaf i geisio mynd i’r afael â rhai o’r bylchau o ran adnoddau Cymraeg i gyd-fynd â chymwysterau.

Daeth i’r amlwg, ar sail gwybodaeth gan aelodau, bod bylchau mewn tua 50 o feysydd (15 pwnc TGAU, 15 pwnc Uwch Gyfrannol, 11 pwnc Safon Uwch, a 7 maes/cymhwyster arall).

Buom yn gohebu gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a Chymwysterau, a chynhaliwyd cyfarfodydd adeiladol iawn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ble bu cyfle i fynd trwy’r rhestr gyfan o fylchau a nodwyd gan aelodau.

Dyma rai o’r canlyniadau positif:

  • Gwahoddiad i chi awgrymu adnoddau fyddai’n ddefnyddiol mewn meysydd ble mae prinder ar hyn o bryd; anfonwch eich awgrymiadau at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
     
  • Gweithdrefnau yn eu lle i gyflymu’r broses o gyfieithu adnoddau ble mae’n rhaid aros am yr adnodd Saesneg yn gyntaf (Addysg Grefyddol yn enghraifft o hyn; bydd y cyhoeddwyr yn Lloegr yn anfon proflenni at CBAC er mwyn dechrau ar y gwaith cyfieithu heb orfod aros nes bod y llyfr wedi dod o’r wasg cyn dechrau ar y gwaith)
     
  • Cyn i lyfrau gael eu cyhoeddi, sicrhau bod modd i athrawon gael mynediad i ddrafft eithaf terfynol ar wefan ddiogel  CBAC

Yn ogystal, cafwyd ymrwymiad y bydd unrhyw amserlen ar gyfer diwygio cymwysterau yn y dyfodol yn caniatáu digon o amser i gyhoeddi manylebau ac adnoddau yn y ddwy iaith o leiaf blwyddyn ysgol gyfan cyn dechrau’u dysgu.

Wrth i’r newidiadau i’r cwricwlwm weithio’u ffordd drwy’r system addysg, bydd UCAC yn pwyso i sicrhau y perchir yr ymrwymiad pwysig hwn.

Mae gennym ragor o wybodaeth ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â phob pwnc ble nodwyd bod diffygion, felly os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon pellach, cysylltwch ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.