DOSBARTH MEISTR RHYNGWEITHIOL

Gorffennaf 2024 

 

Mae Education Support yn trefnu dosbarth meistr rhyngweithiol ddiwedd mis Medi.  Cynhelir y dosbarth 'Arweinyddiaeth ysgol: Sut i ffynnu a ffynnu mewn cyfnod cymhleth' ar 25 Medi, rhwng 9.00 a chanol dydd.  

Mae’r dosbarth meistr hwn ar gyfer arweinwyr ysgolion a rheolwyr llinell yng Nghymru. Bydd yr arbenigwraig, Maggie Farrar, yn gweithio gyda chi i archwilio'r byd cymhleth yr ydym yn byw ac yn arwain ynddo, ac yn eich helpu i fanteisio ar eich doethineb eich hun i feithrin 'presenoldeb arweinyddiaeth'. Bydd hi'n edrych ar sut mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi magu arferion dealladwy a ffyrdd o weithio yn ein hysgolion sydd yn golygu mai gweithwyr ar 'lefel rhybudd uchel gyson' sy'n anodd eu newid.


Ymhlith y pynciau a drafodir yn y dosbarth meistr hwn mae:
• Ffyrdd o weithio sy'n erydu ein lles
• Sut y gallwn adeiladu arferion iachach
• Gwella ein gwytnwch i'n helpu i gynnal ein hunain yn y rôl heriol o fod yn arweinydd mewn ysgol
• Sut y gallwn ni gadw'n gytbwys, yn dawel ac yn ddiogel, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf cythryblus
• Pwysigrwydd adnewyddu ac ailgyflenwi ein hunain fel arweinwyr
• Pwysigrwydd defnyddio ein sgiliau tosturi a charedigrwydd fel 'cyfrwng newid' yn ein hysgolion a pha mor bwerus yw arweinyddiaeth lwyr.

GALWAD AM YMDDIRIEDOLWYR

Gorffennaf 2024 

Mae UCAC yn cynrychioli athrawon,  darlithwyr ac arweinwyr addysg ym mhob cwr o Gymru.  

 

Rydym yn awyddus i benodi ymddiriedolwyr newydd i gyfrannu at lywodraethiant yr Undeb. Mae croeso i unrhyw aelod neu gyn-aelod fynegi diddordeb, a’r Cyngor Cenedlaethol fydd yn penodi’n derfynol. 

 

Prif rôl Ymddiriedolwyr UCAC yw llywodraethu a rheoli asedau’r Undeb: 

 

  • Gwarchod holl fuddsoddiadau’r Undeb, a derbyn cyngor gan yr ymgynghorwyr ariannol perthnasol
  • Bod yn gyfrifol am eiddo’r Undeb, gan sicrhau fod anghenion iechyd a diogelwch yn cael eu diwallu a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei gadw’n safonol. 
  • Sicrhau bod Cynllun Pensiwn UCAC yn cael ei weinyddu’n effeithiol ac yn gywir gydag arweiniad arbenigwyr.

 

Mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar yr Ymddiriedolwyr i sicrhau gwytnwch yr Undeb a disgwylir iddynt gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chyllid a datblygiad UCAC.

 Disgwylir i Ymddiriedolwyr fod ar gael i gyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn. 

 Disgwylir i ymddiriedolwyr wasanaethu am dymor o dair blynedd, ond mae modd gwasanaethu am sawl tymor yn ddilynol.  

 Nid oes tâl i’r rôl hon, ond cynigir costau teithio. 

 

Os oes diddordeb gennych i ymgymryd â’r rôl, cysylltwch â Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am sgwrs neu i fynegi diddordeb gan roi crynodeb o’ch gyrfa ac amlinelliad yn egluro eich diddordeb.  

 



YMWELIAD CYNTAF Â'R GYNHADLEDD

Mehefin 2024 

 

 

 

 

 

Roedd mynychu fy nghynhadledd gyntaf gydag Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru UCAC yn brofiad hynod gyfoethog a gyfrannodd yn sylweddol at fy natblygiad fel athro dan hyfforddiant. Rhoddodd y gynhadledd hon ddealltwriaeth ddyfnach i mi o’r heriau a’r cyfleoedd amlochrog o fewn y proffesiwn addysgu, gan gynnig trosolwg cynhwysfawr a fydd, heb os nac oni bai, yn dylanwadu ar fy nealltwriaeth o ofynion y swydd wrth imi ddechrau fy ngyrfa.

Un o'r agweddau mwyaf buddiol ar fynychu cynhadledd UCAC oedd dod i gysylltiad â materion cyfoes a dadleuon yn ymwneud ag addysg yng Nghymru. Cefais gyfle i ymgysylltu ag addysgwyr profiadol, cynrychiolwyr undebau, a llunwyr polisi a rannodd eu mewnwelediad ar bynciau oedd yn amrywio o ddiwygio’r cwricwlwm i rannu gofidiau manylion newydd TGAU a oedd yn gysylltiedig â llwyth marcio. Roedd y trafodaethau hyn yn tynnu sylw at gymhlethdodau polisïau addysgol a’r goblygiadau ymarferol i athrawon yn y dosbarth. Mae medru cael mewnbwn a deall y materion hyn yn holl bwysig i bobl ifanc sydd am ddechrau yn yr yrfa hon.

Roedd rhwydweithio yn fantais sylweddol arall o fynychu’r cynhadledd UCAC. Roedd cysylltu â chyd-athrawon, addysgwyr profiadol, ac aelodau undeb yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth. Bu rhannu profiadau a heriau gydag eraill yn fodd o agor fy llygaid i’r ffaith nad wyf ar fy mhen fy hun ar y daith hon, ac mae eraill yn rhannu'r un gofidion a theimladau. Wnes i hefyd gael y fraint o gael cyngor gan athrawon profiadol sydd wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus a pharod ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf yn yr ystafell ddosbarth.

Ymhellach, roedd cymryd rhan mewn trafodaethau am rôl undebau wrth eiriol dros hawliau athrawon a gwella safonau addysgol yn agoriad llygad. Roedd dysgu am ymdrechion yr undeb i sicrhau amodau gwaith gwell, cyflog teg, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn aelod gweithgar o’r gymuned addysgu. Mae’r wybodaeth hon wedi fy ngrymuso i gymryd mwy o ran mewn ymdrechion eiriolaeth, gan sicrhau fy mod yn cyfrannu at y llais cyfunol gan ymdrechu am newid cadarnhaol yn y sector addysg.

Roedd bod yn rhan o gynhadledd flynyddol UCAC yn hynod fuddiol er mwyn fy atgoffa pa mor bwysig yw lleisio barn a gwrando ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd addysgu. Mae'n hanfodol fod athrawon boed yn brofiadol tu hwnt neu ddim ond dechrau ar eu gyrfa yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau a’r penderfyniadau sydd yn llywio ein proffesiwn a'n dyfodol. Trwy aros yn wybodus, gall athrawon ddadlau dros newidiadau a fydd yn gwella safonau addysgol. Mae gan bob un person addysgol rôl i’w chwarae yn y trafodaethau hyn, er mwyn sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd yn arwain addysg yn gyrru’r datblygiadau yma er budd pawb.

ANERCHIAD YR YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL YNG NGHYNHADLEDD UCAC

Mehefin 2024 

 

Yn y lle cyntaf, carwn ddiolch o galon i chi am eich presenoldeb yma heddiw. Mae’r trafodaethau wedi bod o’r safon uchaf eleni, ac rwy’n falch iawn o gael bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar undeb sydd yn cael ei gynrychioli mor effeithiol gennych chi. Wrth gwrs, mae’n her ceisio patrwm cynadledda sydd am fod yn effeithiol mewn cyfnod lle mae’r galw ar athrawon yn fawr, llwyth gwaith yn uchel ac ysgolion yn amharod i ryddhau staff. Cafwyd cynhadledd lwyddiannus llynedd, a hynny dros nos yng Nghasnewydd ac yn amlwg cynhadledd un dydd, yr un mor llwyddiannus eleni. Mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio’r patrwm gorau posibl o ran sicrhau bod yr Undeb a’i Swyddogion yn derbyn yr arweiniad a’r llywodraethiant angenrheidiol yn flynyddol. I’r perwyl hwnnw, fe fyddwn yn anfon holiadur at aelodau cyn diwedd y tymor, yn unol â chais Y Cyngor Cenedlaethol,  i ofyn barn o ran natur cynhadledd 2025.

Diolchaf hefyd i’r Staff a’r Swyddogion am eu gwaith caboledig hwy yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Mae’n siwr y gall nifer fawr ohonoch dystio i weithgarwch y swyddogion yn eich cefnogi ac yn eich cynghori yn ystod y flwyddyn. Yn yr un modd, mae’n siŵr y bydd nifer ohonoch yn gallu ategu’r ffaith bod y Staff wedi parhau i weitho’n drwyadl a chywir. Mae’n diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth i mi yn ogystal.

Ond, mae’n diolch pennaf heddiw i Nia, wrth gwrs. Hynny am ei threfniadau gofalus sydd wedi galluogi Cynhadledd mor llwyddiannus.

Fel y llynedd, mae’n bwysig nodi ein bod wedi colli sawl un sydd wedi bod yn weithgar dros yr Undeb yn y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, rwy’n meddwl ei fod yn deg i mi nodi ein bod, yn ystod y flwyddyn, wedi colli un fu’n ddylanwadol iawn ar waith yr Undeb o 1978 ymlaen, sef Gareth Miles. Bu’n Drefnydd ar UCAC, rôl oedd yn debyg iawn i fy un i yn ystod y cyfnod yna. Bydd nifer ohonoch yn cofio Gareth Miles fel ffigwr blaenllaw yn genedlaethol, yn enwedig gyda Chymdeithas Yr Iaith. Fe fu’n ddylanwadol iawn gyda TUC Cymru, yn ystod, ac wedi’r cyfnod y bu’n gweithio gydag UCAC yn ogystal.

Os ga i felly droi yn fyr at rai o’r  pynciau sydd wedi cymryd ein sylw dros y flwyddyn a fu. Yn amlwg, mae Llwyth Gwaith yn parhau’n bwnc sydd yn haeddu sylw. Er tegwch, mae’r Llywodraeth wedi cynnull rhanddeiliaid i sawl gweithgor. Yn anffodus, prin fydd effaith yr hyn sydd wedi ei drafod ar athrawon llawr dosbarth hyd y gwelwn, er bod peth symud ymlaen wedi bod. Rwy’n ddiolchgar i dri o’n plith yn y fan hyn am gytuno i fod ar ‘Grŵp Cyfeirio Athrawon’  Cenedlaethol, ac mae’n amlwg i’r Grŵp gael cryn effaith ar weision sifil yn eu trafodaeth cyntaf yn ddiweddar. Byddwn yn parhau â’r frwydr, wrth gwrs, gan ofyn am fodel tebyg i’r Alban, model fyddai’n gofyn am gytundeb o ran yr oriau a weithir mewn blwyddyn a sicrwydd o ran oriau gwaith.

Nid yw pethau’n argoeli’n dda o ran Cyflog ac Amodau eleni os ydym yn gobeithio gweld cynnydd sylweddol mewn cyflog ac amodau sydd yn ffafrio’r gweithiwr. Hyn yn rhannol gan fod oedi pellach o ran cyflwyno Adroddiad CACAC ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet eleni, ac nad ydym yn disgwyl gweld ymgynghoriad tan ganol mis Gorffennaf, ond hefyd oherwydd modelu’r Llywodraeth o ran codiadau 1,2 neu 3% i gyflog. Yn ogystal, roedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i’r Adolygiad Strategol a wnaed gan CACAC eleni yn siomedig iawn. Er derbyn yr argymhellion, nodwyd yn glir y byddai angen i unrhyw newid fod yn gost niwtral. Gallaf eich sicrhau bod UCAC wedi treulio oriau yn ymateb tair gwaith i’r Adolygiad Blynyddol ac i’r Adroddiad Strategol, ac eto, prin yr ydym yn symud ymlaen. Efallai fod angen i ni ystyried galw am gyd-fargeinio, yn hytrach na’r gweithdrefnau hir wyntog fel sydd gennym. Beth bynnag am hynny, byddwn yn ymgynghori gyda chi’r aelodau ar gynigion yr Ysgrifennydd Cabinet – pan y dônt.

Mae’n bwysig hefyd fy mod yn rhoi sylw i faes arall sydd wedi bod yn destun trafod aelodau a swyddogion ers sawl blwyddyn bellach, ond sydd wedi dod i’r amlwg mewn ffordd gwbl anffodus eleni yn Rhydaman. Yn anffodus, ni allwn nodi mai rhywbeth gwbl unigryw oedd y trais yn erbyn athrawon yn Ysgol Dyffryn Aman, ond yn sicr, mae clywed am ddigwyddiad o’r fath, mewn ysgol a sir lle bo gennym cynifer o aelodau yn destun braw a dychryn, ac roedd siŵr o daro Teulu UCAC yn genedlaethol. Mae unrhyw fath o drais yn gwbl annerbyniol. Mae angen gwarchod ysgolion, disgyblion ac athrawon. Rydym fel Undeb wedi codi ymddygiad a thrais yn gyson yn ein cyfarfodydd sirol a chenedlaethol – ond mae bellach yn amser i ni gael sgwrs cenedlaethol ar y mater. Nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gynnal Uwch-gynhadledd ar y mater. Ei hymateb wrth i ni gwrdd â hi a chodi pryder oedd bod ‘Toolkit’ ar ei ffordd i ddiwallu’r anghenion! Mae’n debygol bod y Llywodraeth yn gweld bod angen gweithredu ymhellach na hynny erbyn hyn!

Mae nifer o bethau eraill sydd yn bwysig iawn i ni, ac yn destun ein gweithredu, gan gynnwys y Bil Addysg Gymraeg newydd, y Cwricwlwm, cymwysterau a llwyth gwaith a diffygion y gyfundrefn ADY – fel yr ydym wedi eu trafod eisoes heddiw. Byddwn yn parhau i godi’r hyn sydd yn bwysig i aelodau UCAC yn ein trafodaethau.

Wrth orffen carwn ddiolch o galon i Geraint Phillips am ei gefnogaeth a’i arweiniad yn ystod y flwyddyn. Yn anffodus, prin oedd yr amser ffurfiol gafodd Geraint i weithredu gan yr Awdurdod, ond mae o wedi bod yn gefn mawr i mi wrth i ni drafod a threfnu.  Y gobaith mawr yw bod Ceri Evans am gael ei ryddhau am y flwyddyn gan Sir Gâr. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo yntau hefyd am ei weithredu fel Is-Lywydd eleni. Rwyf yn edrych ymlaen i gyd-weithio ymhellach flwyddyn nesaf, a charwn ddymuno pob hwyl iddo yntau ac i Sara Edwards ein Is-Lywydd wrth iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau ym Mis Medi.

Diolch yn fawr i chi, cofiwch i barhau i frwydro a chofiwch mai mewn undeb mae nerth! 

DOSBARTH MEISTR - YMDDYGIAD DISGYBLION A MEITHRIN GWYDNWCH

Mehefin 2024 

Pwnc sy'n codi ei ben yn aml y dyddiau hyn yw ymddygiad a disgyblaeth.  Mae Education Support yn cynnal dosbarth meistr ar-lein i athrawon ddydd Mawrth yr ail o Orffennaf rhwng hanner awr wedi naw a deuddeg o'r gloch ar ymddygiad a meithrin gwydnwch.   Isod, ceir mwy o wybodaeth am y gweithgaredd: 

Gall staff ysgolion yng Nghymru gofrestru ar gyfer dosbarth meistr wedi’i ariannu ‘Torri’r Cylch Trawma: Ymddygiad Disgyblion a Meithrin Gwydnwch’ ar ail o Orffennaf rhnwg 9.30a 12.00 o'r gloch. 

 

Mae’r dosbarth meistr rhithwir hwn yn cael ei lywio gan ein dealltwriaeth gynyddol o’r system nerfol ddynol, mae’n cynnig arweiniad ar beth i’w wneud i aros yn oedolyn diogel pan fo disgyblion yn dangos ymddygiad heriol. Mae hefyd yn rhannu fframwaith lles ymarferol ar gyfer meithrin gwydnwch gwirioneddol ac iechyd da i bawb mewn ysgolion.

 

Os ydych yn aelod o staff ysgol yng Nghymru, gallwch gofrestru nawr i sicrhau eich lle, a ariennir heb unrhyw gost i chi: https://www.eventbrite.co.uk/e/breaking-the-trauma-cycle-pupil-behaviour-and-building-resilience-tickets-915232865137?aff=oddtdtcreator