Hawlio ad-daliad treth incwm
Mae hawl gan athro neu ddarlithydd roi Tâl Aelodaeth ei Undeb yn erbyn ei dreth incwm a chael ad-daliad. Er enghraifft, ar gyfer 2022 gallai athro llawn amser hawlio 20% neu 40% o £204 yn ôl.
Onid ydych wedi bod yn hawlio’r ad-daliad hwn yn flynyddol, mae modd i chi hawlio yn ôl am bedair mlynedd.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi pedair ffurflen P87, un ar gyfer pob blwyddyn. Cofiwch nodi eich rhif Yswiriant Cenedlaethol ar y ffurflen, a chyfeirnod treth eich cyflogwr (dylai hwn fod ar eich slip cyflog).
Y flwyddyn dreth | Diwedd y flwyddyn dreth | Rhaid hawlio erbyn |
---|---|---|
2019-20 | 5 Ebrill 2020 | 5 Ebrill 2024 |
2020-21 | 5 Ebrill 2021 | 5 Ebrill 2025 |
2021-22 | 5 Ebrill 2022 | 5 Ebrill 2026 |
2022-23 | 5 Ebrill 2023 | 5 Ebrill 2027 |
Mae’r tabl isod yn nodi’r Tâl Aelodaeth ar gyfer y gwahanol gategorïau o aelodaeth ers 2018.
Blwyddyn |
Tâl aelodaeth llawn |
Rhan-amser (0.7-0.9) |
Rhan-amser (0.4-0.6) |
Rhan-amser (0.3 neu lai) |
Blwyddyn galendr gyntaf |
---|---|---|---|---|---|
2018 | £204 | £171 | £138 | £114 | £0 |
2019 | £204 | £171 | £138 | £114 | £0 |
2020 | £204 | £171 | £138 | £114 | £0 |
2021 | £204 | £171 | £138 | £114 | £0 |
2022 | £204 | £171 | £138 | £114 | £0 |
Os am fwy o wybodaeth ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cymraeg ym Mhorthmadog ar 0300 200 1900.