Mae undebau addysg yn galw am ‘barch, dealltwriaeth a chefnogaeth ar y cyd’ mewn cyngor ar covid-19.
02 Ebrill 2020
Mae undebau addysg yn galw am ‘barch, dealltwriaeth a chefnogaeth ar y cyd’ mewn cyngor ar covid-19.
Heddiw mae pedwar undeb addysg, UCAC, ASCL, NAHT a’r NEU wedi cyhoeddi cyngor ar y cyd i'w haelodau ynghylch Coronafirws:
Cyngor yr undebau ar y cyd ar COVID-19 Cymru
Mae hwn yn gam heb gynsail, sy'n cydnabod difrifoldeb yr argyfwng a'r cydweithredu sydd wedi bod yn digwydd y tu ôl i'r llenni rhwng undebau ac ar lawr gwlad rhwng cydweithwyr mewn ysgolion.
Mae'r cyngor yn gynnyrch sawl diwrnod o weithio ar y cyd, ac mae'n cynnwys meysydd fel staffio diogel, cefnogi disgyblion gartref a chyfeirio pryderon amddiffyn plant.
Dywedir bod llwyddiant yn deillio o barch, cyd-ddealltwriaeth a chefnogaeth wedi ei seilio ar haelioni ysbryd. Mae argyfwng yn ddieithriad yn dod â’r gorau o dimau ysgolion. Cyhoeddwyd y cyngor ar y cyd hwn er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.
Dyma ddywed adran agoriadol y ddogfen:
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod yn hynod ddiolchgar am y gwaith rydych chi’n ei wneud wrth gamu i’r adwy. Mae eich undebau yn falch ohonoch chi hefyd ac eisiau gweithio gyda’n gilydd i’ch galluogi i reoli’ch bywydau proffesiynol a phersonol a chadw’ch hun a’ch myfyrwyr yn ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn.
Mae argyfwng Covid-19 yn golygu bod arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth yn gweithio mewn sefyllfaoedd newydd a ffyrdd newydd er mwyn bodloni’r heriau sy’n eu hwynebu bob dydd. Mae’r rhain yn amseroedd llawn straen a phryder. Mae addysgwyr eisiau gwneud y peth iawn - fel nad yw’r GIG yn cael ei lethu a bod gwasanaethau hanfodol eraill yn parhau i weithredu.
Bydd perthnasoedd proffesiynol da rhwng cydweithwyr yn ein galluogi ni i gyd i gyflawni’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae trafodaeth yn hanfodol fel bod y penderfyniadau a wneir yn wybodus, wedi’u hesbonio’n dda ac yn gallu cael eu gweithredu. Bydd cadernid yn cael ei feithrin pan fydd yr holl gydweithwyr yn teimlo eu bod yn rhan o gynifer â phosibl o benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau proffesiynol.