UCAC a RhAG yn mynegi pryderon am oblygiadau torri cludiant am ddim 16+ ar addysg Gymraeg
23 Ionawr 2014
UCAC a RhAG yn mynegi pryderon am oblygiadau torri cludiant am ddim 16+ ar addysg Gymraeg
Mae undeb athrawon UCAC a mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi mynegi pryderon am oblygiadau torri cludiant am ddim 16+ ar addysg Gymraeg.
Daw hyn yn sgil cyhoeddi cynigion gan Gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr i ddiddymu'r ddarpariaeth. Mae'n bosib y bydd cynghorau Abertawe a Mynwy yn ystyried hyn hefyd.
Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Rydym yn deall pa mor anodd yw hi ar Awdurdodau Lleol. Ond rhaid ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth y cynigion hyn.
"Bydd torri cludiant am ddim i ddisgyblion ôl-16 yn andwyol i strategaethau'r Llywodraeth i gadw pobl ifanc mewn addysg (ac osgoi cynnydd yn y NEETS), ac i gynyddu'r niferoedd sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
"Bydd yn effeithio'n anghymesur ar y sector cyfrwng Cymraeg am fod y pellteroedd y mae'n rhaid i ddisgyblion deithio gymaint yn fwy, ac felly, gymaint yn ddrytach - a hynny mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae hynny'n rhoi addysg ol-16 cyfrwng Cymraeg dan fygythiad, ac mi fyddai hynny yn ei dro yn codi cwestiynau mawr am gynaladwyedd yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sector, heb son am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
"Rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried gwir oblygiadau unrhyw benderfyniadau, a bod yn barod i dderbyn y cyrifoldeb amdanynt yng ngwydd y cyhoedd a'r Llywodraeth."
Meddai Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG, “Tra’n derbyn bod rhaid gwneud arbedion mewn adeg o gynni, rhaid i Awdurdodau Lleol hefyd berchnogi’r cyfrifoldeb o sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch ac mor hwylus â phosib i bawb sy’n dymuno manteisio arni.
“Mae darpariaeth cludiant effeithiol yn allweddol i sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg, gan fod y ddarpariaeth mor bell o gartrefi’r rhan fwyaf o deuluoedd.
Bydd torri cludiant 16+ am ddim yn milwrio’n erbyn dyhead clodwiw Llywodraeth Cymru i dorri’r cylch caeth rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol ac yn tanseilio Mesur Teithio i Ddysgwyr sy’n gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ‘hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg’.
“Bydd hefyd yn cael effaith negyddol ar ddewisiadau rhieni yn y meithrin a’r cynradd gan lyffetheirio gallu'r sir i gyrraedd targedau twf y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
“Mae codi tâl am gludiant ysgol yn mynd i gosbi’r llai cefnog yn fwy na neb, a pheri na fydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn gallu parhau ag addysg Gymraeg. Bydd yn gosod disgyblion dan straen yn ogystâl â rhieni sy'n poeni am eu sefyllfa ariannol. Yn wir, mae’n gwestiwn a yw’r siroedd wedi cynnal asesiad cydraddoldeb ar effaith codi tâl am gludiant ysgol ar addysg Gymraeg 16+, ar addysg 16+ yn gyffredinol nac ar deuluoedd llai cefnog."
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC ar 07787 572180
- Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 07912175403