UCAC a Teacher Support Cymru yn trafod Maniffesto Addysg 2015-2020
29 Mehefin 2015
UCAC a Teacher Support Cymru yn trafod Maniffesto Addysg 2015-2020
Cafodd UCAC gyfarfod eithriadol o ddefnyddiol gyda Sandra Taylor, Rheolwraig Datblygu, Teacher Support, wrth i ni ystyried yr heriau sy'n wynebu athrawon. Nododd y drafodaeth y Maniffesto Addysg 2015-2020 sydd yn ymateb i'r 'canfyddiadau brawychus' ddaw i'r amlwg trwy gyfrwng eu gwasanaethau cefnogi.
Dyma'r pum polisi'n ymwneud â lles yr athro:
1. sicrhau bod pob staff yn derbyn hyfforddiant priodol ac yn cael eu cefnogi i sicrhau gweithlu iach;
2. sicrhau polisi lles staff ym mhob sefydliad;
3. sefydlu fframwaith atebolrwydd sydd yn gefnogol ac yn cael ei gyfarwyddo gan y proffesiwn;
4. gwella statws a chanfyddiad o'r proffesiwn addysg;
5. addunedu i ddwyn sylw i les staff ym myd addysg.
Mae'r egwyddorion yn rhai sydd yn cyd-fynd â gwaith UCAC wrth geisio datrysiadau fydd yn sicrhau bod llwyth gwaith athrawon yn flaenoriaeth gan y llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan yn ogystal ag ar lefel rhanbarthol ac ysgolion unigol.
Mae mwy o fanylion ar gael ar eu gwefan.
Teacher Support
08000 855088
O'r chwith i'r dde: Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Sandra Taylor, Rheolwraig Datblygu Teacher Support Cymru a Rolant Wynne, Swyddog Maes UCAC.