UCAC yn croesawu argymhellion ar dâl ac amodau gwaith athrawon
21 Medi 2018
UCAC yn croesawu argymhellion ar dâl ac amodau gwaith athrawon
Heddiw, cyhoeddwyd ‘Addysgu: Proffesiwn gwerthfawr’, sef adroddiad panel annibynnol, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy’n gwneud argymhellion ynghylch creu ‘Fframwaith Gyfra, Amodau a Chyflog ar gyfer Athrawon yng Nghymru’.
Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae UCAC yn croesawu'r adroddiad; mae’r argymhellion yn fan cychwyn da iawn ar gyfer gwella statws ac amodau gwaith athrawon Cymru.
"Mae adroddiad y Panel yn dangos dealltwriaeth o rai o'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu'r proffesiwn ac awydd i fynd o'r afael â nhw - er budd nid yn unig y proffesiwn ond y system addysg yn ei chyfanrwydd.
"Hyderwn y bydd yr argymhellion hyn dylanwadu ar y broses o lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 a'r Gyllideb addysg yn benodol.
"Gweledigaeth UCAC ar hyd y blynyddoedd oedd sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru. Gyda datganoli’r p?er dros dâl ac amodau gwaith athrawon, mae hynny ar fin cael ei wireddu, ac mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyfraniad gwerthfawr at y drafodaeth. Mae UCAC yn edrych ymlaen at chwarae rôl flaenllaw yn y broses dros y cyfnod i ddod."
DIWEDD
Nodiadau
- Mae UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
- Dolen i'r adroddiad: Addysgu: Proffesiwn gwerthfawrhttps://beta.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-09/addysgu-proffesiwn-gwerthfawr-adroddiad-yr-adolygiad-annibynnol_0.pdf
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.