UCAC yn cyhoeddi adroddiad ar Faterion Llwyth Gwaith
14 Ionawr 2015
UCAC yn cyhoeddi adroddiad ar Faterion Llwyth Gwaith
Mae UCAC wedi cyhoeddi adroddiad ar Faterion Llwyth Gwaith yn seiliedig ar ganlyniadau Holiadur UCAC, Gorffennaf 2014, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd oddi wrth aelodau yn ystod Taith Llwyth Gwaith UCAC a deithiodd ledled Cymru yn ystod tymor yr Hydref 2014.
Mae’r Holiadur a'r cyfarfodydd gydag aelodau wedi cadarnhau yr hyn yr oedd UCAC yn ymwybodol ohono’n barod, sef bod athrawon Cymru o dan straen mawr oherwydd llwyth gwaith gormodol a bod ysgolion yn methu cydymffurfio â’r gofynion statudol dros sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith rhesymol i athrawon ac arweinwyr ysgol.
Mae’r adroddiad yn dangos ystadegau clir am oriau gwaith athrawon a'r galwadau sydd ar eu hamser yn ogystal â barn yr athrawon am ba ddyletswyddau sydd yn cael yr effaith fwyaf – a’r effaith leiaf – ar godi safonau.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:
"Mae’n amlwg bod athrawon o’r farn bod llawer o bethau’n ymyrryd â’u gallu i ganolbwyntio ar y tasgau hynny sydd yn cael yr effaith fwyaf ar godi safonau.
Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn codi cwestiynau difrifol am addysgu fel gyrfa yn wyneb y problemau hyn. Sut allwn barhau i ddenu graddedigion i'r proffesiwn? Sut mae cadw athrawon cydwybodol mewn swyddi addysgu llawn amser? Sut mae denu athrawon dosbarth i swyddi gyda chyfrifoldeb?
Credwn bod y sefyllfa gyfredol yn un anghynaladwy gyda chymaint o anfodlonrwydd yn y proffesiwn oherwydd llwyth gwaith gormodol, diffyg morâl ofnadwy a diffyg statws a pharch at athrawon yn gyffredinol."
Mae'r adroddiad, sydd wedi'i anfon at Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn cynnwys dadansoddiad UCAC o ganlyniadau’r Holiadur gydag awgrym am faterion i’w hystyried gan Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru.