UCAC yn dathlu'r 75
19 Tachwedd 2015
UCAC yn dathlu'r 75
Sefydlwyd UCAC yng Nghaerdydd yn 1940 gan gr?p o athrawon oedd yn gweld yr angen am undeb athrawon fyddai’n ymateb i anghenion penodol athrawon Cymru.
Ar 14 Rhagfyr 2015, bydd UCAC yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 75 mlwydd oed. Mae'r amcanion hynny a sefydlwyd yn y cyfarfod cyntaf dan arweiniad Gwyn M. Daniel, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf UCAC, yn parhau i fod yn greiddiol i waith yr undeb hyd heddiw.
Dyma sydd wedi’i gofnodi yn y Llyfr Cofnodion:
"Daeth nifer dda o athrawon o bob gradd o’r Ysgolion Elfennol i’r Brifysgol ynghyd yn Nh?'r Cymry, Heol Gordon, Caerdydd, am 1.30 o’r gloch ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg 1940 i sefydlu’r Undeb.”
Fel y dywed Rhodri Llwyd Morgan yn ei erthygl Sefydlu Archif UCAC 1940 - c.1980 (Amser Egwyl, Rhifyn 1, Rhagfyr 2000): “Adeg ei sefydlu, roedd UCAC yn fudiad arloesol. UCAC oedd yr undeb llafur proffesiynol cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru a hynny gan Gymry a thros Gymru. Cynrychiolai gorff a fynnai ganolbwyntio meddyliau ar anghenion addysgol a diwylliannol Cymru.”
I gofnodi 75 mlynedd ers ei sefydlu, bydd UCAC yn lansio archif ddigidol ar-lein fydd yn cynnwys lluniau, dogfennau, posteri a chyhoeddiadau amrywiol.
Mae’r undeb yn galw ar aelodau presennol, cyn-aelodau, teuluoedd sylfaenwyr yr undeb, ac unigolion sydd â chysylltiad â'r undeb i fynd i dwrio am luniau, dogfennau neu effemera yn ymwneud â'r undeb.
Bydd UCAC yn sganio ac yn cofnodi pob eitem ddaw i law mewn cydweithrediad â Chasgliad y Werin Cymru dros yr wythnosau nesaf, a gyda chaniatâd, yn cyhoeddi'r deunydd ar-lein. Mae'r undeb yn annog pobl i ddod i gysylltiad â hwy os oes ganddynt ddeunydd perthnasol: 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Bydd yr archif ddigidol yn cael ei lansio'n swyddogol ar 14 Rhagfyr 2015.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carys Lloyd ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..