Uwchgynhadledd Ryngwladol y Proffesiwn Addysgu
20 Ebrill 2017
Uwchgynhadledd Ryngwladol y Proffesiwn Addysgu
Mynychodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Elaine Edwards, Uwchgynhadledd Ryngwladol y Proffesiwn Addysgu yng Nghaeredin ddiwedd mis Mawrth. Roedd yno fel un o ddau arweinydd undeb ar wahoddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
“Roedd yn brofiad diddorol dros ben. Fel rhan o’r disgwyliadau cyn yr Uwchgynhadledd cefais gyfle i ymweld ag Ysgol Gaeleg, Bun-sgoil Taobh na Pàirce, yr unig ysgol Gaeleg yng Nghaeredin, gyda dros 300 o ddisgyblion o dros 20 cefndir ieithyddol gwahanol. Mae addysg drochi’n allweddol ar gyfer sicrhau rhuglder y disgyblion yno, gyda phob arwydd yn yr ysgol yn uniaith Gaeleg. Braf oedd clywed clod y brifathrawes am yr ysbrydoliaeth a ddaeth o ymweliadau ag ysgolion yng Nghymru; adleisiwyd y ganmoliaeth gan ymwelwyr o ysgolion Maori yn Seland Newydd.
Mae’r brifathrawes yn awyddus i wneud cysylltiadau pellach gydag ysgolion yng Nghymru, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn meithrin perthynas, cysylltwch ag UCAC neu mae croeso i gysylltu’n uniongyrchol â’r ysgol.
Treuliwyd gweddill y diwrnod a’r diwrnod canlynol mewn cyfarfodydd yn gwrando ar gyflwyniadau am systemau addysg gwledydd eraill - gan gynnwys Fietnam, Portiwgal, Y Swistir, Canada, Seland Newydd, UDA, Latvia, Sweden, Estonia, Singapore, Gwlad Pwyl a’r Ffindir.
Thema’r uwchgynhadledd oedd Cryfhau Proffesiynoldeb Athrawon ac mae’n rhaid nodi bod athrawon o wledydd amrywiol yn amlwg yn wynebu heriau tebyg o ran llwyth gwaith gormodol ar adeg o gynni ariannol a’r mwyafrif o wledydd yn ceisio mynd i’r afael â diffyg cyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae nifer o wledydd, fel ninnau yng Nghymru, yn bryderus am iechyd a lles athrawon. Cynhaliodd undeb athrawon yn y Swistir arolwg iechyd galwedigaethol ac ymatebodd 50% o’u haelodau.
Diddorol dros ben oedd dysgu am systemau addysg amrywiol, o’r Singapore lle mae’r Llywodraeth yn ganolog yn cyflogi athrawon, i’r Unol Daleithiau lle mae gan bob talaith system addysg a system atebolrwydd sy’n annibynnol o’i gilydd i Sweden lle mae 8% o’r cohort presennol o ddisgyblion yn ffoaduriaid ac mae rhaid i bob athro fod yn ymwybodol o ddulliau dysgu Iaith.
Mae’n amlwg bod athrawon sawl gwlad wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r ymgais i weithredu gormod o flaengareddau’n rhy gyflym. Fel y gwyddom yma yng Nghymru - gan bwyll mae mynd ymhell, ac fel dywedodd un cynadleddwr o Latvia, “Os ydych chi’n dymuno mynd yn gyflym ewch ar eich pen eich hun. Ond os ydych yn dymuno mynd ymhell – ewch gyda’ch gilydd.”