Angen gweithredu ar sail argymhellion adroddiad ariannu

15 Hydref 2020

 

Mae undeb addysg UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i weithredu ar frys ar argymhellion adroddiad gan yr economegydd Luke Sibieta, ‘Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru’, a gyhoeddwyd heddiw (15 Hydref).

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Yn ei adroddiad trylwyr, mae Luke Sibieta’n mynd i’r afael â nifer fawr o’r pryderon mae UCAC wedi’u codi yn ymwneud â lefelau a dulliau ariannu ysgolion.

“Ar hyn o bryd mae’r system wedi’i nodweddu gan anghysondeb difrifol, diffyg tryloywder, a diffyg cynllunio strategol. Yn ogystal, mae cyllidebau ysgolion wedi bod yn gostwng dros sawl blwyddyn.

“Mae’n dda bod hynny wedi’i nodi’n ddu a gwyn yn yr adroddiad – yn ogystal â’r ffaith bod lefelau ariannu yn gwneud gwahaniaeth i ddeilliannau, yn arbennig i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.

“Byddai gweithredu ei argymhellion yn creu system ariannu llawer mwy cyson a thryloyw. Yn ei dro, byddai hynny’n caniatáu lefel uwch o atebolrwydd ar draws y system – a’r gallu i wneud cymariaethau, dysgu gwersi a lledaenu arfer effeithiol. Yn hollbwysig, mi fyddai’n rhoi dimensiwn strategol, hir-dymor i gyllido ysgolion.

“Pwyswn ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i ymateb ar frys i weithredu’r argymhellion hyn.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.