Ymateb UCAC i ddatganiad Llywodraeth Cymru ar Adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru 2022-23.
22 Gorffennaf 2022
Mae UCAC yn gresynu bod y cyhoeddiad hwn wedi ei wneud gyda'r mwyafrif o ysgolion Cymru eisoes wedi cau am y flwyddyn addysgol. Mae hyn yn creu ansicrwydd ychwanegol i arweinwyr ac athrawon mewn cyfnod o heriau neilltuol yn y byd addysg.
Bydd UCAC yn edrych ar fanylder y cyhoeddiad gan roi sylw penodol i addewid Llywodraeth Cymru na fydd arweinwyr ac athrawon Cymru ar eu colled o’u cymharu â chyflogau ac amodau gwaith swyddi cyfatebol yn Lloegr. Byddwn hefyd yn edrych ar oblygiadau’r addewidion ar gyfer Medi 2023.
Yn sicr, nid yw’r codiad cyflog sydd wedi ei gyhoeddi’n adlewyrchu’r lefelau chwyddiant sydd yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Mae hynny’n siom ar adeg pan mae staff ysgol wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swyddi er mwyn sicrhau lles addysgol; iechyd corff a meddwl disgyblion ysgol.
Mae’n bryder ychwanegol nad ydyw Llywodraeth Cymru yn gallu gwarantu’r cyllid angenrheidiol i ariannu’r lefelau cyflogau. Byddwn yn trafod hyn ymhellach gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a gydag awdurdodau unigol.
Bydd UCAC yn trafod Datganiad y Gweinidog gydag aelodau ein Cyngor Cenedlaethol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru, gan baratoi ymateb ffurfiol i’r cyhoeddiad. Byddwn hefyd yn edrych ar faterion ehangach o fewn cylch gorchwyl Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
Os ydym am ddenu athrawon newydd a meithrin athrawon i rôl arweinyddol yna mae’n rhaid i ni gynnig sicrwydd swyddi a chyflogau teilwng gan hefyd fynd i’r afael â’r llwyth gwaith affwysol sy’n sigo’r proffesiwn ers blynyddoedd.