Datganiad y Gweinidog Addysg: Ymateb
11 Rhagfyr 2020
Mae UCAC yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i symud ysgolion uwchradd a cholegau Cymru i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o’r 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws'. Mae’n benderfyniad doeth sy’n ymateb i’r pryderon sydd wedi eu codi gan UCAC ac yn ymateb i gyngor y Prif Swyddog Meddygol.
Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad oedd penderfyniad cyffelyb wedi ei wneud ar lefel cenedlaethol ar gyfer y sector cynradd. canlyniad hynny yw anghysondebau ac ansicrwydd ar draws Cymru o ran trefniadau gan awdurdodau lleol.
Rydym yn cydnabod ymdrechion yr awdurdodau hynny sydd wedi gwneud penderfyniadau sy’n adlewyrchu dyheadau’r proffesiwn i sicrhau diogelwch staff, disgyblion ysgolion a’r gymuned ehangach.
Rydym nawr yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eglurder ar dymor y Gwanwyn ac yn parhau i drafod gyda hwy a gyda’r awdurdodau lleol wrth ystyried mis Ionawr.
Mae arweinwyr, athrawon a darlithwyr wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau nid yn unig addysg ond gofal i ddisgyblion a myfyrwyr ac rydym yn mawr hyderu y bydd egwyl haeddiannol, diogel ac iach iddynt dros gyfnod y Nadolig.