Croesawu addasiad i amserlen cyflwyno’r cwricwlwm

06 Gorffennaf 2021 

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd addasiad i amserlen cyflwyno’r cwricwlwm newydd, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Croesawn yr addasiad i’r amserlen fel cyfaddawd doeth. Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â’r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.

“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau’n fwy o her i’r sector uwchradd, yn ogystal â’r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi’u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.

“Rydym yn rhoi croeso gofalus yn ogystal i’r gefnogaeth ychwanegol o ran cyllid, sefydlu’r Rhwydwaith Cenedlaethol, a’r addasiad i fframweithiau Estyn, er bod llawer o fanylion i’w cadarnhau eto.

“Yr unig siom sydd gennym yw bod cyflwyno’r cwricwlwm i Flynyddoedd 7 ac 8 ar yr un pryd yn 2023 yn colli’r cyfle i roi blwyddyn ychwanegol ar gyfer addasu cymwysterau i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Mae yna waith sylweddol iawn i’w wneud i sicrhau – yn unol â gweledigaeth y Gweinidog – bod ein cymwysterau yn cyd-fynd â’r uchelgais gyffrous tu ôl i’n cwricwlwm.”