Trefniadau dechrau tymor Ionawr

16 Rhagfyr 2021 

Heddiw, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ynglŷn â threfniadau dechrau’r tymor nesaf, ym mis Ionawr.

Gallwch ddarllen y datganiad fan hyn:
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-trefniadau-gweithredol-ysgolion-cholegau-o-ionawr-2022

Yn ogystal, cafodd y wybodaeth ei hanfon yn uniongyrchol at bob Pennaeth ysgol a choleg addysg bellach mewn llythyr bore ‘ma.

Mae’n cydnabod yr heriau difrifol mae’r sector addysg wedi’u hwynebu yn ystod y tymor hwn ac yn nodi’r trefniadau ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dyma grynodeb o’r hyn a nodir:

  • dau ddiwrnod cynllunio i bob ysgol ar ddechrau tymor newydd y gwanwyn; bydd hyn yn caniatáu amser i asesu capasiti staffio a rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith i gefnogi dychweliad dysgwyr
    • bydd y diwrnodau cynllunio hefyd yn caniatáu i arweinwyr ysgolion uwchradd gynllunio er mwyn i ddysgwyr sefyll eu harholiadau ym mis Ionawr yn ddiogel; mae pecyn ychwanegol o gefnogaeth i ddysgwyr wedi’i gyhoeddi heddiw
       
    • defnyddiwch y diwrnodau cynllunio hefyd os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau bod gennych gynlluniau cadarn ar waith i symud i ddysgu o bell; gallai hyn fod ar gyfer dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn unigol neu o bosib ar gyfer yr ysgol gyfan, gan ddibynnu ar y pwysau ar eich lefelau staffio
  • dylid cynllunio’r camau lliniaru ar gyfer y dychweliad ar sail y lefel risg ‘uchel iawn’ (sy’n rhan o’r Fframwaith Penderfyniadau Lleol)
     
  • rwy’n cyflwyno Hysbysiad Deddf y Coronafeirws 2020 i ganiatáu i ysgolion amrywio amseroedd cychwyn a gorffen o ddechrau'r tymor newydd fel cam ychwanegol pe bai ysgolion yn penderfynu bod hyn yn briodol fel rhan o'u proses asesu risg
     
  • dylid ailedrych ar gynlluniau wrth gefn i sicrhau bod blynyddoedd arholiad yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer darpariaeth ar y safle pe bai angen cyfyngu ar ddysgu wyneb yn wyneb ar unrhyw adeg; wrth ailedrych ar y cynlluniau wrth gefn, dylid ystyried pa drefniadau y gallai fod angen bod ar waith ar gyfer dysgwyr bregus a phlant gweithwyr hanfodol yn ystod unrhyw gyfnodau o darfu; mae canllawiau pellach i gefnogi‘ch diwrnodau cynllunio
     
  • parhau â’r cyngor ar orchuddion wyneb i'r tymor newydd
     
  • pwysig iawn bod staff a dysgwyr yn parhau i ddefnyddio Profion Llif Ochrol yn rheolaidd yn ystod y tymor fel y gallwn ddod o hyd ac ynysu'r rhai a allai fod yn heintus i eraill yn ddiarwybod; ein disgwyliad cryf i’r dyfodol yw y dylai'r holl staff a dysgwyr oed uwchradd neu'n hŷn brofi deirgwaith yr wythnos gan ddefnyddio Profion Llif Ochrol (ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener) yn yr wythnos cyn dychwelyd i'r ysgol ac yna parhau i brofi'n rheolaidd dair gwaith yr wythnos ar ôl dechrau'r tymor ym mis Ionawr
     
  • trefniadau ar gyfer staff mewn darpariaeth addysgol arbennig yn aros yn eu lle; fodd bynnag, bydd y dull ‘profi i ddiogelu’ yn parhau i gael ei ystyried ochr yn ochr â staff gofal cymdeithasol a lle bo’n berthnasol bydd unrhyw newidiadau ar gyfer staff gofal cymdeithasol yn cael eu hadlewyrchu ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig
     
  • dylai pawb flaenoriaethu cael eu brechlyn atgyfnerthu pan fyddant yn cael ei gynnig a gofynnaf i ysgolion ganiatáu ar gyfer hynny fel rhan o’u cynlluniau
     
  • bydd yn parhau i fod yn bwysig nad oes unrhyw un â symptomau COVID-19 yn mynychu'r ysgol ar ddechrau'r tymor a dylent archebu prawf PCR
     
  • os bydd unrhyw ddiweddariadau pellach dros gyfnod y gwyliau byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn rhannu’r rhain gyda chi cyn eich diwrnodau cynllunio; byddwn hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda'ch Cyfarwyddwyr Addysg ac eich Undebau Llafur dros yr wythnosau nesaf

Gydag ysgolion a cholegau’n symud felly i lefel risg uchel iawn, bydd angen ail edrych ar asesiadau risg gan rannu’r wybodaeth gyda staff.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu unrhyw sylw am y cyhoeddiad hwn cofiwch gysylltu gyda ni ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Bydd UCAC yn parhau i fynychu cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth leol.