CYNHADLEDD DARPL
8 Mehefin 2023
Bu cynrychiolwyr o UCAC mewn cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd ar 8 Mehefin, cynhadledd a drefnwyd gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol). Roedd gweld cynifer yn bresennol yn galonogol iawn a chafwyd diwrnod llawn, gyda nifer o siaradwyr blaenllaw o Gymru a thu hwnt yn siarad yn huawdl a grymus am eu profiadau o hiliaeth a sut y maen nhw wedi defnyddio’r profiadau negyddol hynny i weithredu ac ymgyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem. Roedd clywed am waith yr unigolion hyn yn brofiad arbennig ac yn anogaeth yn ogystal ag yn her. Wrth glywed areithiau a oedd yn anesmwytho ac yn ysgogi’r meddwl, atgoffwyd y cynadleddwyr o’r gwaith y mae angen ei gyflawni, er mwyn gallu gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru yn wlad wrth-hiliol erbyn 2030.