Cyfarfod Fforwm Polisïau Cymru
13 Rhagfyr 2018
Cyfarfod Fforwm Polisïau Cymru
Ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 12fed roedd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, yn siarad mewn cyfarfod ar y camau nesaf i’r gweithlu addysgu yng Nghymru oedd wedi ei drefnu gan Fforwm Polisi Cymru.
Roedd ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar yr angen i roi ystyriaeth lawn i les ac iechyd athrawon ac i fynd i’r afael â’r llwyth gwaith affwysol sy’n llethu’r proffesiwn.
Cyfeiriodd at ymchwil gan Lywodraeth San Steffan, gan elusen yr Education Partnership a chan yr Undeb ei hun sy’n dangos bod athrawon ac arweinwyr yn gweithio ymhell y tu hwnt i reolau’r Working Time Regulation.
Nododd adroddiad pellgyrhaeddol ar les ac iechyd, gan yr Institution of Occupational Safety and Health (IOSH), oedd yn nodi mai’r cyflogai yw’r ‘ased mwyaf gwerthfawr’ a bod angen ‘ymagwedd gyfannol (holistic) at les’ isicrhau staff ‘ysgogol, yn gorfforol ac yn seicolegol, ac yn wydn'.
Rydym mewn cyfnod o newid mawr yn y byd addysg ac mae adeg o newid yn gosod straen enfawr ar y gweithlu. Dyma adeg ble mae angen sicrhau parch ac ymddiriedaeth ac er mwyn i hynny ddigwydd mae gwerth ystyried egwyddorion sy’n cael eu hamlinellu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac yn nodi pwysigrwydd:
siarad gyda’n gilydd; gwrando ar bryderon ein gilydd; codi pryderon a datrys problemau gyda'n gilydd; ceisio a rhannu barn a gwybodaeth; trafod materion mewn da bryd; ystyried beth sydd gan bawb i'w ddweud; gwneud penderfyniadau gyda'n gilydd.
Mae’r ddogfen Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr yn datgan yr angen i:
- ddatblygu hyder ac ennill ymddiriedaeth y cyhoedd;
- fynd i’r afael â llwyth gwaith;
- sicrhau arweinyddiaeth hyderus.
Yn sicr, bydd yr adroddiad yn destun trafod a dadlau ond rydym mewn cyfnod ble mae gwir angen newid yn y diwylliant sydd ar brydiau’n llethol o ran y pwysau gwaith ac atebolrwydd. Mae datganoli cyflogau ac amodau gwaith yn gyfle i edrych o’r newydd ar addysgu a dim ond wrth wneud hynny mae modd i ni ddenu athrawon newydd i’r proffesiwn.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950