DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD

10 Hydref 2023 

 

Mae hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw.   Mae UCAC yn rhoi pwys ar les ei aelodau.  Os ydych chi'n Athro Newydd Gymhwyso, beth am ymuno â'r sesiwn lles a fydd ar-lein am 6yh nos Fercher 18 Hydref?  Bydd y sesiwn yn gyfle i chi sgwrsio gydag un o swyddogion UCAC ac yn ystod y sesiwn, byddwch yn derbyn cyngor ar les, gan gynnwys sut i sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith.  

 

 

 

 

Hawlio ad-daliad treth incwm

Mae hawl gan athro neu ddarlithydd roi Tâl Aelodaeth ei Undeb yn erbyn ei dreth incwm a chael ad-daliad. Er enghraifft, ar gyfer 2022 gallai athro llawn amser hawlio 20% neu 40% o £204 yn ôl.

Onid ydych wedi bod yn hawlio’r ad-daliad hwn yn flynyddol, mae modd i chi hawlio yn ôl am bedair mlynedd. 

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi pedair ffurflen P87, un ar gyfer pob blwyddyn. Cofiwch nodi eich rhif Yswiriant Cenedlaethol ar y ffurflen, a chyfeirnod treth eich cyflogwr (dylai hwn fod ar eich slip cyflog).  
   Y flwyddyn dreth   Diwedd y flwyddyn dreth    Rhaid hawlio erbyn
   2019-20    5 Ebrill 2020    5 Ebrill 2024
   2020-21    5 Ebrill 2021    5 Ebrill 2025
   2021-22    5 Ebrill 2022    5 Ebrill 2026
   2022-23    5 Ebrill 2023    5 Ebrill 2027

 




 

Mae’r tabl isod yn nodi’r Tâl Aelodaeth ar gyfer y gwahanol gategorïau o aelodaeth ers 2018.

   Blwyddyn

Tâl aelodaeth
llawn
Rhan-amser
(0.7-0.9)
Rhan-amser
(0.4-0.6)
Rhan-amser
(0.3 neu lai)
Blwyddyn galendr
gyntaf
   2018 £204 £171 £138 £114 £0
   2019 £204 £171 £138 £114 £0
   2020 £204 £171 £138 £114 £0
   2021 £204 £171 £138 £114 £0
   2022 £204 £171 £138 £114 £0
 
Os am fwy o wybodaeth ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cymraeg ym Mhorthmadog ar 0300 200 1900.

UCAC i gynnal pleidlais swyddogol ynghylch gweithredu diwydiannol

10 Hydref 2022 

 

Mewn cyfarfod ddydd Iau, 6 Hydref 2022 penderfynodd Cyngor Cenedlaethol UCAC fwrw ati i gynnal pleidlais swyddogol ymhlith aelodau’r Undeb i ganfod a ydynt am weithredu’n ddiwydiannol.  Bydd y bleidlais ar sail cynnig Llywodraeth Cymru i sicrhau codiad cyflog o 5% i athrawon a’r llwyth gwaith cynyddol sydd ar athrawon.   Mae’r Undeb yn galw am godiad cyflog nad yw’n is na’r gyfradd chwyddiant ac amodau gwaith teg. 

 

Dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC – “Rydym yn siomedig nad yw cynnig Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r gyfradd chwyddiant bresennol na chwaith yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein hathrawon.  Ar hyn o bryd, mae’r proffesiwn yn wynebu amodau gwaith sy’n fwyfwy heriol a hynny law yn llaw gyda chostau byw cynyddol.  Rydym yn wynebu heriau dirfawr o ran cadw athrawon yn y proffesiwn yn ogystal â sialensau wrth geisio recriwtio aelodau newydd.

Nid yw gweithredu’n ddiwydiannol yn benderfyniad hawdd i’n hathrawon sy’n poeni am les a llwyddiant eu disgyblion.  Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y safon addysg orau, mae’n bwysig bod athrawon yn ennill cyflog teg a bod yr amodau gwaith yn rhai priodol.”