Mencap Cymru
13 Hydref 2016
Mencap Cymru
Roedd yn braf cael croesawu Laura Scorey, Fran Power a Charlie Phillips i'r brif swyddfa ar gyfer cyfarfod yr Adran Gydraddoldeb. Mae'r tri'n gweithio i fudiad Mencap Cymru a chawsom orolwg o'u gwaith gyda phobol ifanc yn y de-ddwyrain.
Mae Charlie Phillips yn lysgennad sydd wedi elwa o gefnogaeth Mencap Cymru ac roedd hi'n ddiddorol gweld fel mae prosiectau o'r fath yn fuddiol i ysgolion a chymunedau cyfan gyda'r pwyslais ar gynhwysiad ac ennill hyder.
Yn ein trafodaeth roedd teimlad bod y pwysau ar gyrraedd targedau llythrenedd a rhifedd yn aml ar draul ystyriaeth o'r gwerthoedd sydd eu hangen ar gyfer sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu trin fel aelodau gwerthfawr o'n cymunedau.
I ddysgu mwy am waith Mencap Cymru, ewch i'w gwefan, neu dilynwch eu cyfrif trydar.