Cynrychioli aelodau UCAC yn San Steffan
14 Hydref 2016
Cynrychioli aelodau UCAC yn San Steffan
Ar ddydd Iau, Hydref 13eg bu'r Ysgrifennydd Cyffredinol, Elaine Edwards, yn Llundain gyda Rolant Wynne, Ysgrifennydd yr Adran Gyflogau, Pensiynau ac Amodau Gwaith a Dilwyn Roberts-Young, yr Is-ysgrifennydd Cyffredinol, ar gyfer cyfarfod gyda swyddogion o'r Adran Addysg yno.
Roedd y drafodaeth yn un allweddol wrth i ni ystyried:
- rôl y School Teachers' Review Body (STRB), y corff sydd yn cynnig argymhellion i Lywodraeth San Steffan ar faterion yn ymwneud â chyflogau ac amodau gwaith athrawon ysgolion â gynhelir gan Awdurdodau Lleol; a
- dyfodol y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (School Teachers’ Pay and Conditions Document), y ddogfen sydd yn amlinellu materion cyflog ac amodau gwaith statudol.
Trafodwyd pwrpas yr STRB wrth i Lywodraeth San Steffan ddatblygu’r weledigaeth o weld mwy a mwy o ysgolion Lloegr yn troi’n academiau sydd â’r hawl i benderfynu ar gyflog ac amodau gwaith eu hun. Pwysleidiodd UCAC bod cyfundrefn addysg Cymru’n wahanol iawn gan bod y mwyafrif helaeth o’n hysgolion yn ysgolion a gynhelir gan Awdurdodau Lleol a bod dim bwriad creu ysgolion academi yma.
Cafwyd cyfle yn ystod y cyfarfod i bwysleisio pryderon UCAC am y newidiadau i’r strwythur cyflogau athrawon Cymru a Lloegr ers 2013 sydd yn caniatau dod i llawer o benderfyniadau am gyflog unigolion, yn lleol, fesul ysgol. Pwysleisiwyd yr ymdeimlad bod awydd yng Nghymru i drafod cyflogau ar lefel cenedlaethol a nid ar lefel lleol fel y mae'r Ddogfen Cyflogau ac Amodau Gwaith Athrawon yn ei ganiatáu erbyn hyn. Yn wir, mae gwaith yr undebau i sicrhau cysondeb ar draws Cymru, gan gynnwys materion allweddol fel hygludedd cyflog a threfniadau symud i'r Ystod Cyflog Uwch, yn tystio i'r awydd o ran yr undebau ac awdurdodau lleol am delerau ac amodau gwaith cyson. Soniodd Swyddogion UCAC am ymdrechion yr undebau yng Nghymru i weithio'n galed gyda'r awdurdodau lleol a'r consortia i sicrhau tegwch i'n haelodau trwy argymell polisiau cyflog i ysgolion bydd yn sicrhau cysondeb.
Yng Nghymru rydym wedi llwyddo i wrthsefyll y chwalfa sydd yn digwydd yn Lloegr o ran ysgolion academi a rhydd – a’r holl rhyddid sydd gan y cyflogwyr hynny o ran pennu cyflogau ac amodau gwaith. Mae’n ymddangos bod dyheadau Llywodraeth San Steffan i osod mwy fwy o benderfyniadau am gyflog athrawon ysgolion a gynhelir yn nwylo cyflogwyr â’u gwreiddiau yn y bwriad i droi mwy a mwy o ysgolion Lloegr yn ysgolion academi.
Pwysleisiodd UCAC bod rhaid i Lywodraeth San Steffan ystyried sefyllfa gwahanol iawn cyfundrefn addysg Cymru, fodd bynnag, mae'n gwbl glir bellach mai'r unig ffordd ymlaen yng Nghymru yw sefydlu system gwbl annibynnol sydd yn adlewyrchu anghenion Cymru. Mae angen system sy'n adlewyrchu'r heriau sydd yn ein hwynebu o ran daearyddiaeth, iaith a datblygiadau ym myd addysg sydd ar lwybr gwahanol iawn i Loegr.
Bydd UCAC yn parhau i ymladd dros sicrhau bod cyflogau yn adlewyrchu'r disgwyliadau proffesiynol ar athrawon ac i wella’r amodau gwaith er mwyn sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith.