Pwy fydd yn talu am godiad cyflog athrawon?

22 Gorffennaf 2019
 

Pwy fydd yn talu am godiad cyflog athrawon?

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (22 Gorffennaf) ynghylch cyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20, mae undeb athrawon UCAC wedi codi pryder ynghylch pwy fydd yn ariannu’r codiadau cyflog.
 
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol – dyma’r tro cyntaf i gyflogau athrawon Cymru gael eu penderfynu yng Nghymru. Mae hynny’n gam pwysig dros ben ac yn gydnabyddiaeth bod angen i Gymru gymryd cyfrifoldeb dros ei gweithlu addysg.
 
“Mae UCAC yn croesawu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru sydd wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw. Os gweithredir y rhain yn llawn, mi fydd yn creu system dâl gwirioneddol genedlaethol ar gyfer athrawon a fydd yn darparu eglurder, cysondeb a thegwch i bawb.
 
“Ar sail yr argymhellion hyn, mae’r Gweinidog yn cynnig cynnydd o 5% i gyflog athrawon newydd gymhwyso er mwyn cau’r bwlch gyda chyflogau cychwynnol gyrfaoedd graddedig eraill, a chynnydd o 2.75% i athrawon eraill – sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn mae’r Corff Adolygu Cyflogau yn ei argymell, ond sy’n sicrhau nad oes anfantais i athrawon Cymru o gymharu ag athrawon dros y ffin yn Lloegr. 
 
“Bydd UCAC yn ymateb i gynigion y Gweinidog, ac yn pwyso arni i ystyried sut i weithredu gweddill argymhellion y Corff Adolygu cyn gynted â phosib.
 
“Rydym yn falch i nodi bod y Gweinidog yn “ymwybodol iawn” o’r “pwysau ar gyllid” sy’n wynebu ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Yn ei dro, mae UCAC yn “ymwybodol iawn” nad yw Llywodraeth San Steffan wedi datgan i ba raddau y bydd yn ariannu codiadau cyflog athrawon yn Lloegr, a beth fydd sgil-effaith hynny ar gyfer Cymru.
 
“Pwyswn yn drwm ar y ddwy Lywodraeth i ariannu’r codiadau cyflog hyn yn llawn. Bydd unrhyw beth llai na hynny’n golygu toriad pellach i gyllidebau addysg, ac mi fyddai hynny’n cael effaith negyddol ar ddiogelwch swyddi, ar lwyth gwaith, ac yn ei dro ar safon addysg gan danseilio’r system addysg ymhellach.”