‘Tystiolaeth lethol’ o broblemau ariannu ysgolion ledled Cymru

9 Gorffennaf 2019

‘Tystiolaeth lethol’ o broblemau ariannu ysgolion ledled Cymru

Mae undeb addysg UCAC yn croesawu’r adroddiad ‘Cyllido Ysgolion yng Nghymru’ a gyhoeddwyd heddiw (10/07/19) gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r Pwyllgor wedi gwneud ei ymchwil, wedi derbyn llu o dystiolaeth, ac wedi dod i’r casgliad clir ‘nad oes digon o arian yn mynd i’r system addysg yng Nghymru ac nad oes digon yn cyrraedd ysgolion’. Mae UCAC yn cytuno’n llwyr â’r casgliad hwnnw.

“Nid yw ysgolion yn gallu fforddio’r niferoedd o staff sydd eu hangen arnynt i ddarparu addysg o safon uchel. Canlyniad hynny yw bod dosbarthiadau’n cynyddu yn eu maint, gyda llai a llai o staff cymorth dysgu i rannu’r gwaith ac i roi cefnogaeth hollbwysig i ddysgwyr bregus.

“Rydym yn falch bod y Pwyllgor wedi tynnu sylw at gymhlethdod y system ariannu yn ei chyfanrwydd, a’r amhosibilrwydd o ddod i unrhyw farn ynghylch gwerth am arian dan y fath system gymhleth ac anghyson.

“Pwyswn ar Lywodraeth Cymru i wrando’n astud ar y negeseuon hyn, i’w cymryd o ddifrif, ac i weithredu ar fyrder ar argymhellion y Pwyllgor. Mae ein hysgolion yn gwegian, a gyda’r rhagolygon ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ni fydd yn bosib iddynt ysgwyddo baich y diwygiadau anferth ac uchelgeisiol sydd ar y ffordd.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.