Streicio ynghylch newid hinsawdd: cyngor gan UCAC
13 Chwefror 2019
Streicio ynghylch newid hinsawdd: cyngor gan UCAC
Yn sgil y streicio posib gan ddisgyblion ddydd Gwener 15 Chwefror ynghylch newid hinsawdd, mae UCAC wedi rhyddhau’r cyngor canlynol i’w haelodau sy’n arweinwyr ysgol:
-
Bydd angen i ddisgyblion sydd am ‘streicio’, gyflwyno lythyr gan riant yn rhoi caniatâd ar gyfer yr absenoldeb; hynny yw, llythyr sy’n rhoi sicrwydd bod rhiant yn ymwybodol o’r absenoldeb, ac yn cymryd cyfrifoldeb am y ddisgybl
-
O ran sut i gofnodi’r absenoldeb, mater i ddisgresiwn y Pennaeth yw hyn, ar sail cyngor gan yr Awdurdod Lleol a chanllawiau Llywodraeth Cymru; mi fyddai’n fuddiol petai Awdurdodau Lleol yn cynnig cyngor penodol i ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb
-
Mae UCAC yn parchu’r hawl i brotestio’n heddychlon – mae’n hawl ddemocrataidd bwysig; er hynny, dylid ceisio sicrhau nad yw hynny’n amharu ar drefniadau ar gyfer derbyn addysg
- Mae angen sicrhau bod newid hinsawdd yn cael sylw dyledus yn y cwricwlwm newydd