Cynhadledd Iechyd meddwl mewn addysg
15 Chwefror 2019
Cynhadledd Iechyd meddwl mewn addysg
Ar Ddydd Mercher, Chwefror 13eg, 2019 mynychodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, gynhadledd yn Llundain ar iechyd meddwl mewn addysg.
Roedd hi’n gynhadledd eithriadol o lwyddiannus wrth i nifer sylweddol o arbenigwyr ystyried y modd mae ysgolion yn delio gydag iechyd meddwl. Cafwyd cyflwyniadau gan amrywiaeth o siaradwyr profiadol yn y maes gan gynnwys academyddion ac ymarferwyr.
Cafwyd pwyslais yn y gynhadledd ar sicrhau bod cydbwysedd rhwng ystyried lles ac iechyd y disgyblion ond sicrhau hefyd bod yr un ystyriaeth yn cael ei roi i les ac iechyd yr athro.
Mae’n allweddol bod ysgol yn mabwysiadu strategaeth ysgol gyfan i iechyd meddwl sy’n cynnwys y disgyblion, athrawon, cymorthyddion ac yn wir y gymuned gyfan.
Wrth ystyried y gefnogaeth i athrawon roedd ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw rôl yr athrawon ei hunan i’r disgyblion a’r myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ellir disgwyl i athrawon sicrhau cefnogaeth i’r disgyblion heb gael hyfforddiant a derbyn cefnogaeth eu hunain.
Mewn oes pan mae’r holl bwyslais ar dargedau a chanlyniadau mae’n hawdd colli golwg ar yr angen i greu amgylchedd diogel sy’n rhoi gwerth ar yr unigolyn a phwysigrwydd i le'r unigolyn mewn cymdeithas sy’n rhoi gwerth i bob un.
Yr her nawr yw i ni ddysgu o brofiadau’r gynhadledd a gweithio tuag at gymuned addysg yng Nghymru sy’n cymryd iechyd meddwl o ddifrif ym myd addysg a thu hwnt.