Trafod Gweithio'n Hwyach yn San Steffan

11 Mawrth 2015

Trafod Gweithio'n Hwyach yn San Steffan

Ar Fawrth y 10fed, 2015 mynychodd Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC y diweddaraf o gyfarfodydd yn San Steffan ble mae'r Adran Addysg a'r undebau athrawon yn ystyried oblygiadau gweithio'n hwyach ar athrawon.

Mae'r drafodaeth yn ystyried effaith ar iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol ar athrawon wrth iddynt weithio'n hwyach. Ymysg yr ystyriaethau i reoli problemau iechyd mae lleihau amserlenni, dysgu grwpiau, dosbarthiadau llai, gweithio'n rhan amser a gweithgareddau amgen i ddysgu, er enghraifft, marcio, paratoi cynlluniau gwaith a mentora. Wrth gwrs, mae oblygiadau i hynny gan gynnwys yr angen i addasu a'r effaith gyllidol ar y cyflogwr.
 
Mae ymchwil wedi ei gomisiynu ar effaith gweithio yn hwyach ar athrawon a byddwn yn mynd ati i holi'ch barn ar y mater yn y dyfodol agos.