Addysgwyr o ledled Cymru yn dod i drafod materion o bwys yng Nghynhadledd Flynyddol UCAC
10 Ebrill 2015
Addysgwyr o ledled Cymru yn dod ynghyd i drafod materion o bwys yng Nghynhadledd Flynyddol UCAC, 17-18 Ebrill, yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod
Yng Nghynhadledd UCAC 17-18 Ebrill bydd materion pwysig am fyd addysg Cymru o dan drafodaeth a disgwylir addysgwyr o ledled Cymru i ddod ynghyd i drafod materion o bwys ac i wrando ar y siaradwyr gwadd.
- Yr Athro John Furlong, Athro Emeritws mewn Addysg, Prifysgol Rhydychen
- Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg
- Phillip Blaker, Prif Weithredwr Dros Dro Cymwysterau Cymru
- Dr Siân Wyn Siencyn, Athro Cysylltiol (Plentyndod Cynnar) a Deon y Gyfadran Addysg a Chymuned Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae yna amrywiaeth eang o bynciau dan sylw, gan gynnwys:
"Bydd cynigion diddorol iawn dan sylw sydd yn amlinellu rhai o flaenoriaethau a phryderon ein haelodau," medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC. "Edrychwn ymlaen at drafodaethau brwd ac at wrando ar siaradwyr gwadd sydd yn arweinwyr yn eu maes ac ym myd addysg Cymru. Bydd y Llywydd presennol Ioan Rhys Jones o Ysgol Gymraeg Morgan Llwyd, Wrecsam, yn urddo'r Llywydd newydd ar gyfer y Flwyddyn academaidd 2015-16, Gareth Morgan o Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yng nghinio'r Gynhadledd ar y nos Wener. Bydd, hefyd, amser i ymlacio i adloniant y Welsh Whisperer a Gwilym Bowen Rhys a hyd yn oed i gael sesiwn ioga gyda Laura Karadog yn gynnar bore dydd Sadwrn cyn i'r dadlau ailgychwyn."
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag UCAC ar 01970 639 950
-
Yr Athro John Furlong, Athro Emeritws mewn Addysg, Prifysgol Rhydychen
- Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg
- Phillip Blaker, Prif Weithredwr Dros Dro Cymwysterau Cymru
- Dr Siân Wyn Siencyn, Athro Cysylltiol (Plentyndod Cynnar) a Deon y Gyfadran Addysg a Chymuned Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- cyllido digonol
- llwyth gwaith
- proses sgriwtini cadarn ar gyfer perthynas Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru
- diffyg mynediad at y cynllun pensiwn athrawon i athrawon sy'n cyflenwi trwy asiantaethau
- cyllido addysg oedolion
- diswyddiadau gorfodol
- adnoddau addysg
- Cyngor y Gweithlu Addysg
- arsylwi athrawon
- Iechyd a Diogelwch
- canllawiau Llywodraeth Cymru am ddarparu meddyginiaethau i ddisgyblion ag anghenion meddygol