UCAC yn galw am ragor o hyfforddiant i’r gweithlu addysg

24 Ionawr 2018

UCAC yn galw am ragor o hyfforddiant i’r gweithlu addysg

Mewn ymateb i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Estyn heddiw, mae undeb athrawon UCAC wedi galw am gynyddu nifer y diwrnodau hyfforddiant ar gyfer athrawon, penaethiaid a chymorthyddion.

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Un o’r themâu sy’n rhedeg trwy adroddiad blynyddol Estyn yw’r angen am hyfforddiant trwyadl o safon uchel i’r gweithlu addysg cyfan.

“Mae’r Prif Arolygydd yn ei gwneud hi’n gwbl glir yn ei adroddiad mai diffyg hyfforddiant a chefnogaeth yw un o’r prif resymau dros yr anghysonderau mae’n ei weld yn y system, gan gynnwys yn y Cyfnod Sylfaen, mewn perthynas â llythrennedd, rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

“Os ydyn ni am gael system addysg o safon uchel, gyda chysondeb ledled Cymru, a gan ein bod ni yn y broses o gyflwyno newidiadau gwirioneddol bellgyrhaeddol i’r cwricwlwm, mae’n rhaid, rhaid, sicrhau lefel briodol o hyfforddiant a chefnogaeth i gymorthyddion, athrawon ac i arweinwyr, er mwyn rhoi iddynt y lefel briodol o arbenigedd a hyder.

“Mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu at y 5 diwrnod blynyddol o Hyfforddiant mewn Swydd yn ystod y cyfnod yn arwain at gyflwyno’r cwricwlwm a threfniadau asesu newydd. Dyma’r unig ffordd o sicrhau’r lefelau o ddatblygiad proffesiynol sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu gweledigaeth uchelgeisiol y Llywodraeth.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli  athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.