Ffioedd parcio Abertawe - UCAC yn gwrthwynebu'n ffyrnig

2 Chwefror 2018

Ffioedd parcio Abertawe - UCAC yn gwrthwynebu'n ffyrnig

Mewn ymateb i gynigion gan Gyngor Abertawe i godi ffioedd ar staff ysgolion i barcio ar dir yr ysgol, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

"Mae UCAC yn brawychu at y cynnig hwn gan Gyngor Abertawe ac yn gwrthwynebu'n chwyrn. Mae'n awgrymu 'desperation' llwyr ar ran y Cyngor.

"Mi fyddai cyflwyno ffioedd parcio ar weithlu sector cyhoeddus sydd wedi gweld rhewi neu gapio'u cyflogau ers saith mlynedd bellach, yn gwbl annerbyniol.

"Ar lefel ymarferol, mae athrawon yn cario llwythi trwm iawn o lyfrau bob dydd sy'n gwneud teithio ar gludiant cyhoeddus yn eithriadol o anodd.

"Rydym yn poeni hefyd y gallai hyn ychwanegu at lwyth gwaith penaethiaid os oes disgwyl iddyn nhw gasglu taliadau a dosbarthu trwyddedau.

"Mae'r cynigion yn gwbl aneglur, ac nid oes unrhyw fath o ymgynghori wedi bod arnynt - o feddwl y gallant gael eu cyflwyno o fis Ebrill ymlaen.

"Galwn ar Gyngor Abertawe i dynnu'r cynigion afresymol hyn yn ôl ar unwaith er mwyn tawelu'r dyfroedd ac osgoi colli ewyllys da y gweithlu cyfan."

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli  athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.