UCAC yn rhoi croeso gofalus i’r datganiad am orchuddion gwyneb i ddysgwyr dros 11 oed, er bod pryderon yn codi

26 Awst 2020

Mae UCAC yn croesawu’n gyffredinol y cyhoeddiad a ddaeth gan Lywodraeth Cymru heddiw parthed cyngor y Prif Swyddog Meddygol y byddai gwisgo gorchuddion gwyneb i ddysgwyr dros 11 oed yn fodd i leihau’r risg o ledaenu’r feirws Covid-19 lle nad yw pellter cymdeithasol yn gallu cael ei gadw.  

Ond fe ddaw’r cyhoeddiad yn ddifrifol o hwyr gydag ond 2 ddiwrnod i  ysgolion Cymru weithredu. Mae’n afresymol y bydd rhaid i Benaethiaid ail-edrych ar eu hasesiadau risg a’r holl ffactorau yn ymwneud a dysgwyr yn gwisgo a chadw’r gorchuddion gwyneb tra ar dir yr ysgol ar y funud olaf.

Dywed Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC - “Rydym yn croesawu’r datganiad yma heddiw gan fod hyn yn un mesur ychwanegol er mwyn ceisio lleihau trosglwyddiad y feirws.  

“Mae pryder gwirioneddol wedi bod ymysg ein haelodau sydd yn addysgu mewn ysgolion uwchradd ac mewn sefydliadau addysg bellach mai prin yw’r camau sydd wedi eu cymryd i liniaru’r risg o ddysgwyr dros 11 mlwydd oed yn trosglwyddo’r haint. 

“Fodd bynnag, mae’n hynod o siomedig mai dim ond 2 ddiwrnod cyn dechrau’r tymor y daw’r cyhoeddiad yma, gan y bydd yn rhaid i’n Penaethiaid ail-edrych ar eu hasesiadau risg ac ar holl systemau diogelwch yr ysgol i wirio bod angen defnyddio gorchuddion wyneb a’u bod yn cael eu cadw wrth gyrraedd yr ystafell ddosbarth.   Mae’n siom hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n orfodol gwisgo gorchuddion gwyneb yn ein hysgolion gan ychwanegu cyfrifoldeb ychwanegol ar ein penaethiaid.

“Un mesur i geisio lleihau trosglwyddiad y feirws yw hyn, wrth gwrs, ac mae UCAC o’r farn ei fod yn holl bwysig fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod pawb yn cadw pellter cymdeithasol a bod golchi dwylo rheolaidd yn dod yn arferiad yn ein hysgolion a’n colegau.

“Bydd UCAC yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn genedlaethol ac yn rhanbarthol ac i drafod gyda llywodraethau cenedlaethol a lleol i sicrhau diogelwch aelodau.