Skip to main content

Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol Dros Dro

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.

Prif waith yr Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol fydd:

  • arwain ar faterion aelodaeth yr undeb gan gadw rhestr aelodaeth gyfredol yr Undeb, adnabod anghenion a chyfleoedd recriwtio’r Undeb a bod yn weithredol yn y broses recriwtio
  • gweithredu fel Derbynnydd UCAC pan yn y Brif Swyddfa
  • cefnogi’r Uwch Swyddog Gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol i’r Undeb

Cyflog: £34,211
Lleoliad: Hyblyg
Oriau gwaith: Rhan amser (0.8)

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod. 

Dyddiad cau: 02 Tachwedd am 1yp
Cyfweliadau: 10 Tachwedd

Ffurflen Gais
Disgrifiad Swydd
Disgrifiad Person

Swyddog Polisi

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.

Prif waith yr Swyddog Polisi fydd:

  • paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
  • hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol

Cyflog cychwynnol: £49,820
Lleoliad: Hyblyg
Oriau gwaith: Llawn Amser

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod. 

Dyddiad cau: 02 Tachwedd am 1yp
Cyfweliadau: 10 Tachwedd

Ffurflen Gais