Ail-agor ysgolion gyda chamau diogelu
05 Chwefror 2021
Mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn dechrau dychwelyd i’r ysgol yn ystod yr wythnos ar ôl hanner tymor, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’n gam positif bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf sy’n caniatáu i blant y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd. Rydym yn croesawu’r ffaith bod mesurau ychwanegol wedi’u crybwyll i leihau risgiau ymhellach gan gynnwys profi cyson i staff a buddsoddiad mewn cyfarpar ac addasiadau.
“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pryder gwirioneddol gan athrawon y Cyfnod Sylfaen wrth iddynt ystyried dychwelyd, ac rydym yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion i ystyried y sefyllfa leol yn llawn cyn ystyried eu cynlluniau i ddychwelyd yn bwyllog ac yn ddoeth. Rydym yn annog ysgolion i ystyried dychwelyd graddol, hyblyg, wedi’i gynllunio.”
“Byddwn yn parhau i drafod y manylion gyda’r Llywodraeth, Awdurdodau Lleol a cholegau dros yr wythnos i ddod, a byddwn yn cefnogi ein haelodau wrth iddynt fynd i’r afael â’r trefniadau ymarferol heriol yn eu hysgolion a cholegau.
“Pwysleisiwn bwysigrwydd neges y Gweinidog i rieni a chymunedau ehangach, nad oes unrhyw llacio o gwbl ar y cyfyngiadau ehangach; bydd hyn yn hollbwysig er mwyn cadw ysgolion ar agor dros y tymor hir.
“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraethau San Steffan a Chymru i ddatgan sut a phryd byddant yn rhoi blaenoriaeth o ran brechu staff ysgolion er mwyn sicrhau parhad addysg ein plant.”