Pensiynau athrawon
09 Chwefror 2021
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar drefniadau pensiwn y sector gyhoeddus gan gynnwys pensiynau athrawon.
Yn dilyn newidiadau i drefniadau pensiwn 2015 bu dyfarniad cyfreithiol bod y cynlluniau newydd yn gwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau o weithwyr cyhoeddus. Mae’r Llywodraeth yn cyfeirio at 2015-2022 fel y cyfnod iawndal (remedy period).
Mae adroddiad y Llywodraeth wedi ei gyhoeddi yma:
Mae’n braf nodi fod y Llywodraeth wedi cytuno i nifer o argymhellion a godwyd gan UCAC ac undebau eraill wrth i ni gyfrannu at yr ymgynghoriad.
Un mater yr oedd UCAC a’r undebau eraill yn gadarn iawn arno oedd yr argymhellion i’r Llywodraeth i sicrhau bod athrawon yn gallu oedi eu dewis ar eu taliadau pensiwn i’r pwynt y mae’r athro yn derbyn y pensiwn. Mae Pensiwn Athrawon yn cyfeirio at hyn fel y ‘Deferred Choice Underpin’.
Mae’r Llywodraeth wedi cytuno gyda’r argymhelliad hwn fydd yn golygu bod aelodau o gynlluniau pensiwn sy’n ddilys i dderbyn iawndal am y cyfnod 2015-2022 yn gallu gwneud y dewis ar y pwynt o dderbyn taliadau pensiwn, e.e. wrth ymddeol, o dderbyn pensiwn wedi seilio ar gynllun cyflog terfynol neu ar gynllun cyflog wedi seilio ar gyfartaledd gyrfa am y gwasanaeth pensiynadwy rhwng 1af o Ebrill 2015 a 31ain o Fawrth 2022.
Mae croeso wrth gwrs i chi gysylltu gyda UCAC am fwy o fanylion ar hyn ond byddwn yn eich annog i gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar yr opsiwn fydd orau i chi.