Mudiadau’n cymell newid i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu
19 Chwefror 2021
Ar ddydd Gwener, 19 Chwefror, anfonodd chwe mudiad lythyr ar y cyd at y Gweinidog Addysg yn gofyn am newidiadau i Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Roedd y Gweinidog wedi gwrthod gwelliant i’r Bil fyddai’n creu Cod Dysgu’r Gymraeg ar un Continwwm, ond wedi awgrymu y gellid creu Fframwaith Iaith Gymraeg ac y gallai hwnnw fod yn statudol.
Mae’r chwe mudiad – sef Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG), Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) ac UCAC yn cymell y Gweinidog i greu Fframwaith Iaith Gymraeg fyddai’n rhoi arweiniad a chanllaw clir ar sut i weithredu dull continwwm sy’n datblygu sgiliau disgyblion yn y Gymraeg i’r eithaf.
Cytuna’r mudiadau y byddai cyfeirio at y Fframwaith ar wyneb y Bil yn sicrhau statws statudol y Fframwaith ac yn rhoi arwydd clir ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau y gweithredir y continwwm yn effeithiol – fel rhan o’r ymdrech i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Caiff y Bil ei drafod ar lawr y Senedd ar 2 Mawrth.