CYFARFOD AG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS ADDYSG

Mehefin 2024 

Yn dilyn newidiadau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, roedd UCAC yn falch o’r cyfle o gael cyfarfod â Lynne Neagle yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg.  Yn ystod y cyfarfod, cafwyd cyfle i drafod nifer o faterion sy’n peri gofid i’n haelodau ar hyn o bryd.

CYLLID

Mae sefyllfa gyllidol ein hysgolion yn peri pryder ac ysgolion di-rif yn gorfod chwilio am arbedion.  Canlyniad hyn, wrth gwrs, yw llai o adnoddau, llai o staff a llai o gyfleoedd i’n disgyblion, a hyn mewn cyfnod lle bo ysgolion yn gorfod mynd i’r afael â newidiadau chwyldroadol. 

LLWYTH GWAITH

Yn wyneb cwricwlwm newydd i Gymru, y ddeddf ADY newydd, cymwysterau newydd i ddysgwyr 14-16 oed, mae llwyth gwaith athrawon yn affwysol.  Er bod trafodaethau ar y gweill a gweithgorau wedi’u sefydlu i geisio ymdrin â’r broblem hon, hyd yma ni welwyd llawer o newidiadau ar lawr gwlad.  Rhaid gwneud mwy na siarad am y mater hwn ac mae’n bwysig bod camau ymarferol ar waith i sicrhau gwell telerau gwaith i athrawon ac er mwyn denu mwy i’r proffesiwn. 

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Un o’r meysydd sydd wedi ychwanegu’n sylweddol at lwyth gwaith athrawon yw’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.  Mae’r gofynion ar athrawon ac ar y cydlynydd (CADY) yn benodol yn sylweddol.  Hyd yma, ni bennwyd graddfa gyflog nac amodau gwaith penodol i’r rôl bwysig hon.  O ganlyniad, gwelwyd unigolion lu yn rhoi’r gorau i’w swyddi a rhai hyd yn oed yn gadael y proffesiwn oherwydd maint y gofynion.  Mae’r Ddeddf newydd yn peri heriau ac mae hyn yn cael ei gydnabod mewn sectorau y tu hwnt i fyd addysg.  Er lles dysgwyr a staff, mae’n rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder.

GWEITHLU CYFRWNG CYMRAEG A STATWS Y GYMRAEG

Mae sicrhau gweithlu digonol ar gyfer y dyfodol yn allweddol ond yn heriol, ac mae sicrhau gweithlu cyfrwng Cymraeg hyd yn oed yn fwy heriol.  Rhaid gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i’n pobl ifanc, gan gynnwys sicrhau fod digon o gyfleoedd i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ogystal, angen gwneud pob ymdrech i weld ysgolion dwyieithog a Saesneg eu cyfrwng yn symud ar hyd y continwwm ieithyddol. Er mwyn gwireddu uchelgais y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid gweithredu a chymryd camau breision.   

Cafwyd cyfle hefyd i fynegi ein barn ynghylch natur y ddarpariaeth Gymraeg.  Nid cyflwyno’r iaith ar gyfer llwyddo mewn arholiadau neu berfformio yw’r nod, ond sicrhau bod gennym unigolion fydd yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd  mewn bywyd a gwaith. 

CYMWYSTERAU 14-16

Wrth wynebu cymwysterau newydd ar gyfer disgyblion 14-16 oed, rhaid sicrhau cefnogaeth a hyfforddiant proffesiynol amserol a digonol ac o’r radd flaenaf i bawb a fydd yn cyflwyno’r cyrsiau newydd.  Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw sicrhau bod yr adnoddau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar yr un adeg â’r adnoddau cyfatebol yn y Saesneg a rhoddwyd enghreifftiau o adegau pan na fu hyn yn wir. 

YMDDYGIAD A DISGYBLAETH

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd dirywiad amlwg o ran ymddygiad disgyblion ac mae digwyddiadau diweddar wedi tanlinellu’r angen dybryd i fynd i’r afael â phroblemau disgyblaeth yn ein sefydliadau addysgol.  Mae angen rhywbeth mwy na ‘phecyn cymorth’ er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn llefydd diogel i’n dysgwyr ac i’n staff. 

 Y DYFODOL 

Cafwyd gwrandawiad parchus ac ymddangosai’r Ysgrifennydd Cabinet i gytuno â’r sylwadau.  Ymhen ychydig ni fydd hi’n ‘newydd yn y swydd’ a’r gobaith yw y byddwn cyn pen dim, yn ei gweld yn amlwg yn datgan ei chefnogaeth ac yn gweithredu’n gadarnhaol dros athrawon.  Ei geiriau yn y Senedd ar ddechrau ei chyfnod yn y swydd oedd mai ei ‘man cychwyn bob amser fydd lles mwyaf ein dysgwyr, ac yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc’.  Gobeithio y bydd yn sylweddoli bod lles athrawon a staff ysgolion ynghlwm wrth les disgyblion.  Amser a ddengys!