ANERCHIAD YR YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL YNG NGHYNHADLEDD UCAC

Mehefin 2024 

 

Yn y lle cyntaf, carwn ddiolch o galon i chi am eich presenoldeb yma heddiw. Mae’r trafodaethau wedi bod o’r safon uchaf eleni, ac rwy’n falch iawn o gael bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar undeb sydd yn cael ei gynrychioli mor effeithiol gennych chi. Wrth gwrs, mae’n her ceisio patrwm cynadledda sydd am fod yn effeithiol mewn cyfnod lle mae’r galw ar athrawon yn fawr, llwyth gwaith yn uchel ac ysgolion yn amharod i ryddhau staff. Cafwyd cynhadledd lwyddiannus llynedd, a hynny dros nos yng Nghasnewydd ac yn amlwg cynhadledd un dydd, yr un mor llwyddiannus eleni. Mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio’r patrwm gorau posibl o ran sicrhau bod yr Undeb a’i Swyddogion yn derbyn yr arweiniad a’r llywodraethiant angenrheidiol yn flynyddol. I’r perwyl hwnnw, fe fyddwn yn anfon holiadur at aelodau cyn diwedd y tymor, yn unol â chais Y Cyngor Cenedlaethol,  i ofyn barn o ran natur cynhadledd 2025.

Diolchaf hefyd i’r Staff a’r Swyddogion am eu gwaith caboledig hwy yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Mae’n siwr y gall nifer fawr ohonoch dystio i weithgarwch y swyddogion yn eich cefnogi ac yn eich cynghori yn ystod y flwyddyn. Yn yr un modd, mae’n siŵr y bydd nifer ohonoch yn gallu ategu’r ffaith bod y Staff wedi parhau i weitho’n drwyadl a chywir. Mae’n diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth i mi yn ogystal.

Ond, mae’n diolch pennaf heddiw i Nia, wrth gwrs. Hynny am ei threfniadau gofalus sydd wedi galluogi Cynhadledd mor llwyddiannus.

Fel y llynedd, mae’n bwysig nodi ein bod wedi colli sawl un sydd wedi bod yn weithgar dros yr Undeb yn y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, rwy’n meddwl ei fod yn deg i mi nodi ein bod, yn ystod y flwyddyn, wedi colli un fu’n ddylanwadol iawn ar waith yr Undeb o 1978 ymlaen, sef Gareth Miles. Bu’n Drefnydd ar UCAC, rôl oedd yn debyg iawn i fy un i yn ystod y cyfnod yna. Bydd nifer ohonoch yn cofio Gareth Miles fel ffigwr blaenllaw yn genedlaethol, yn enwedig gyda Chymdeithas Yr Iaith. Fe fu’n ddylanwadol iawn gyda TUC Cymru, yn ystod, ac wedi’r cyfnod y bu’n gweithio gydag UCAC yn ogystal.

Os ga i felly droi yn fyr at rai o’r  pynciau sydd wedi cymryd ein sylw dros y flwyddyn a fu. Yn amlwg, mae Llwyth Gwaith yn parhau’n bwnc sydd yn haeddu sylw. Er tegwch, mae’r Llywodraeth wedi cynnull rhanddeiliaid i sawl gweithgor. Yn anffodus, prin fydd effaith yr hyn sydd wedi ei drafod ar athrawon llawr dosbarth hyd y gwelwn, er bod peth symud ymlaen wedi bod. Rwy’n ddiolchgar i dri o’n plith yn y fan hyn am gytuno i fod ar ‘Grŵp Cyfeirio Athrawon’  Cenedlaethol, ac mae’n amlwg i’r Grŵp gael cryn effaith ar weision sifil yn eu trafodaeth cyntaf yn ddiweddar. Byddwn yn parhau â’r frwydr, wrth gwrs, gan ofyn am fodel tebyg i’r Alban, model fyddai’n gofyn am gytundeb o ran yr oriau a weithir mewn blwyddyn a sicrwydd o ran oriau gwaith.

Nid yw pethau’n argoeli’n dda o ran Cyflog ac Amodau eleni os ydym yn gobeithio gweld cynnydd sylweddol mewn cyflog ac amodau sydd yn ffafrio’r gweithiwr. Hyn yn rhannol gan fod oedi pellach o ran cyflwyno Adroddiad CACAC ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet eleni, ac nad ydym yn disgwyl gweld ymgynghoriad tan ganol mis Gorffennaf, ond hefyd oherwydd modelu’r Llywodraeth o ran codiadau 1,2 neu 3% i gyflog. Yn ogystal, roedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i’r Adolygiad Strategol a wnaed gan CACAC eleni yn siomedig iawn. Er derbyn yr argymhellion, nodwyd yn glir y byddai angen i unrhyw newid fod yn gost niwtral. Gallaf eich sicrhau bod UCAC wedi treulio oriau yn ymateb tair gwaith i’r Adolygiad Blynyddol ac i’r Adroddiad Strategol, ac eto, prin yr ydym yn symud ymlaen. Efallai fod angen i ni ystyried galw am gyd-fargeinio, yn hytrach na’r gweithdrefnau hir wyntog fel sydd gennym. Beth bynnag am hynny, byddwn yn ymgynghori gyda chi’r aelodau ar gynigion yr Ysgrifennydd Cabinet – pan y dônt.

Mae’n bwysig hefyd fy mod yn rhoi sylw i faes arall sydd wedi bod yn destun trafod aelodau a swyddogion ers sawl blwyddyn bellach, ond sydd wedi dod i’r amlwg mewn ffordd gwbl anffodus eleni yn Rhydaman. Yn anffodus, ni allwn nodi mai rhywbeth gwbl unigryw oedd y trais yn erbyn athrawon yn Ysgol Dyffryn Aman, ond yn sicr, mae clywed am ddigwyddiad o’r fath, mewn ysgol a sir lle bo gennym cynifer o aelodau yn destun braw a dychryn, ac roedd siŵr o daro Teulu UCAC yn genedlaethol. Mae unrhyw fath o drais yn gwbl annerbyniol. Mae angen gwarchod ysgolion, disgyblion ac athrawon. Rydym fel Undeb wedi codi ymddygiad a thrais yn gyson yn ein cyfarfodydd sirol a chenedlaethol – ond mae bellach yn amser i ni gael sgwrs cenedlaethol ar y mater. Nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gynnal Uwch-gynhadledd ar y mater. Ei hymateb wrth i ni gwrdd â hi a chodi pryder oedd bod ‘Toolkit’ ar ei ffordd i ddiwallu’r anghenion! Mae’n debygol bod y Llywodraeth yn gweld bod angen gweithredu ymhellach na hynny erbyn hyn!

Mae nifer o bethau eraill sydd yn bwysig iawn i ni, ac yn destun ein gweithredu, gan gynnwys y Bil Addysg Gymraeg newydd, y Cwricwlwm, cymwysterau a llwyth gwaith a diffygion y gyfundrefn ADY – fel yr ydym wedi eu trafod eisoes heddiw. Byddwn yn parhau i godi’r hyn sydd yn bwysig i aelodau UCAC yn ein trafodaethau.

Wrth orffen carwn ddiolch o galon i Geraint Phillips am ei gefnogaeth a’i arweiniad yn ystod y flwyddyn. Yn anffodus, prin oedd yr amser ffurfiol gafodd Geraint i weithredu gan yr Awdurdod, ond mae o wedi bod yn gefn mawr i mi wrth i ni drafod a threfnu.  Y gobaith mawr yw bod Ceri Evans am gael ei ryddhau am y flwyddyn gan Sir Gâr. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo yntau hefyd am ei weithredu fel Is-Lywydd eleni. Rwyf yn edrych ymlaen i gyd-weithio ymhellach flwyddyn nesaf, a charwn ddymuno pob hwyl iddo yntau ac i Sara Edwards ein Is-Lywydd wrth iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau ym Mis Medi.

Diolch yn fawr i chi, cofiwch i barhau i frwydro a chofiwch mai mewn undeb mae nerth!