Canllawiau Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch
17 Mehefin 2020
Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch ac mae ar gael yma:
Bydd nifer o faterion i chwi eu hystyried yng nghyd-destun y canllawiau ac rydym yn eich annog i ofyn am sicrwydd bod:
- asesiadau risg priodol wedi’u cynnal a’u cyfathrebu’n effeithiol
- trefniadau ynysu yn eu lle ac wedi’u cyfathrebu’n glir; (Tud. 8)
- y gweithle’n cydymffurfio gyda’r disgwyliadau ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu; (Tud. 9)
- gan y gweithle gyflenwad priodol o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE); (Tud. 20 - 22)
- llwybrau clir o ran cyfathrebu unrhyw ymateb i gais am gefnogaeth/gymorth; (Tud. 10)
- gweithle’n cydymffurfio gyda’r disgwyliadau o ran glanweithdra a hylendid; (Tud. 15 - 19)
- gweithdrefnau clir mewn lle os oes achos tybiedig neu achos wedi ei gadarnhau o Covid-19; (Tud. 19)
- trefniadau mewn lle i fonitro’r disgwyliadau arnoch a’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r disgwyliadau hynny;
- y sefydliad yn ymwybodol o unrhyw anghenion penodol sydd gennych o ran eich iechyd ac iechyd unrhyw rai y mae gennych gyfrifoldeb amdanynt (Tud. 13)
- y sefydliad yn ymwybodol o unrhyw gyfrifoldebau gofal sydd gennych a allai effeithio ar eich patrwm gwaith
Os oes gyda chi unrhyw bryderon, sylwadau neu gwestiynau am faterion yn ymwneud â’ch gwaith mae croeso i chi gysylltu gyda ni.