GWRES LLETHOL
Mehefin 24ain, 2026
Yn wyneb y gwres llethol, rydym yn deall ac yn annog yr angen i ystyried a dilyn trefniadau gwahanol i’r arfer. Mae sefyllfa pob ysgol yn wahanol, ond mae’n bwysig bod camau pendant yn cael eu cymryd i asesu’r risg i’r gweithlu ac i ddysgwyr. Rhaid bod yn ofalus a gofalgar o bob unigolyn yr ysgol, gan roi sylw dyledus ac arbennig i’r carfannau hynny y bydd y gwres yn effeithio fwyaf arnynt. O fod wedi asesu’r risg, yna mae’n bwysig bod y camau priodol yn cael eu cymryd o fewn ysgolion, gan addasu trefn diwrnod, gofynion gwisg a gweithgareddau yn ôl yr angen. Os nad yw’r asesiad risg yn gallu gwarantu diogelwch staff a disgyblion, yna rhaid derbyn fod yr ysgol yn wynebu’r penderfyniad anochel o gau’r ysgol. Mae’n bwysig bod pob aelod o’r gweithlu a phob dysgwr yn gweithio mewn awyrgylch diogel.