Croesawu ail-gyflwyno graddfeydd cyflog cenedlaethol i athrawon
29 Gorffennaf 2020
Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw mewn perthynas ag ail adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Rydym yn llawenhau i weld ail-gyflwyno graddfeydd cyflog cenedlaethol – a dileu trefniadau tâl ar sail perfformiad. Dyma ddau welliant mae UCAC wedi bod yn ymgyrchu drostynt ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drefniadau cyflog athrawon ledled Cymru.
“Yn ogystal, rydym yn croesawu’r codiadau cyflog sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Gobeithiwn y bydd y newidiadau hyn yn help i ddenu pobl i’r proffesiwn, ar adeg pan mae wir angen hynny.
“Fodd bynnag, rydym yn siomedig bod y codiad cyflog i arweinwyr ysgol yn is nag ar gyfer gweddill y proffesiwn. Mae arweinwyr ysgol yn ysgwyddo lefelau uchel iawn o gyfrifoldeb, wrth reoli sefydliadau cymhleth mewn amgylchiadau anodd ac ar brydiau anwadal. Bydd y lleihad yn y gwahaniaeth rhwng cyflogau athrawon a chyflogau arweinwyr yn debygol o fod yn niweidiol i’r ymdrech i annog athrawon i ddewis llwybr arweinyddol.
“Nawr, bydd UCAC yn ymateb i’r adroddiad ac i gyhoeddiad y Gweinidog. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw godiadau cyflog yn cael eu hariannu’n llawn er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau ysgolion.
“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai na fu eu tebyg wrth i arweinwyr ac athrawon fynd ati i ymrwymo’n llwyr i les disgyblion yn ystod y cyfnod Covid-19. Rydym wedi gweld addasu dulliau addysgu a sicrhau gofal dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Rydym yn falch gweld cydnabyddiaeth o’r gwaith hwnnw.”