Miliwn o siaradwyr Cymraeg

10 Awst 2020
Mewn cyfarfod wedi ei drefnu gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer yr Eisteddfod Amgen bu Dilwyn Roberts-Young, ysgrifennydd Cyffredinol UCAC yn ymateb i’r Nodyn Briffio ar Y Gymraeg a’r gweithlu addysg statudol yng Nghymru. 
 
Mae rôl athrawon, wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn hanfodol.
 
Rydym yn pryderu, felly, am y gostyngiad yn nifer yr athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng Cymraeg dros y pum mlynedd diwethaf.
 
Er mwyn sicrhau bod Y Gymraeg yn ffynnu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg, cred UCAC fod angen sicrhau bod strategaeth gynllunio’r gweithlu clir ar waith.
 
Mae adroddiad Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn gywir i bwysleisio’r angen i gael gweledigaeth glir ar gyfer denu a chadw athrawon ac i hwyluso llwybrau i ddysgu Cymraeg a datblygu gallu Cymraeg sy’n bodoli eisoes.
 
Wrth ddenu darpar athrawon i'r proffesiwn mae angen edrych ar y materion ehangach o gyflogau priodol, o leihau llwyth gwaith a llwybrau gyrfa clir all sicrhau bod addysgu yng Nghymru yn cael ei weld fel proffesiwn gwerthfawr.
 
Rydym yn croesawu'r adroddiad fel sail ar gyfer deialog â llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol ac yn cymeradwyo honiad yr adroddiad nad 'strategaeth ategol ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg sydd ei hangen, ond yn hytrach strategaeth hyfforddi a datblygu athrawon sy’n adlewyrchu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog’.